Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Chwilio am Swyddi... Swyddi a Gyrfaoedd Cofrestru Sut i Ymgeisio Cwestiynau cyffredin

A fyddech cystal â chwblhau'r ffurflen isod er mwyn cofrestru ar gyfer gwneud cais am ein swyddi. Bydd yr holl ddata a gofnodir ar eich ffurflen gais yn cael ei gofnodi'n awtomatig mewn unrhyw ffurflen gais rydych yn dymuno ei chwblhau. Ar ôl ichi gwblhau'r ffurflen, cliciwch ar y botwm 'Cofrestru' ar waelod y dudalen ac yna anfonir e-bost atoch â chyfrinair dros dro.

Nodwch: mae'n rhaid ichi fewngofnodi i'r safle gan ddefnyddio'r cyfrinair dros dro sydd wedi'i e-bostio atoch oherwydd bydd y cyfrinair hwn yn dod i ben ymhen awr ar ôl ichi gofrestru.

Sylwer: mae meysydd â seren (#{msg.manadatory_field) yn orfodol


Manylion Sylfaenol

(DD/MM/YYYY)
(DD/MM/BBBB)

Manylion Cyswllt

Addysg/Cymwysterau

Addysg/Cymwysterau 1

Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol a manylion am gyrsiau hyfforddiant perthnasol - Rhowch y rhifau cofrestru proffesiynol lle bo’n berthnasol.

Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol a manylion am gyrsiau hyfforddiant perthnasol - Rhowch y rhifau cofrestru proffesiynol lle bo’n berthnasol. 1

Perthyn i Gynghorwyr, Llywodraethwyr Ysgolion neu Uwch Swyddogion

Perthyn i Gynghorwyr, Llywodraethwyr Ysgolion neu Uwch Swyddogion 1

Holiadur Monitro Cydraddoldeb

Beth sy'n disgrifio eich rhyw orau?

Dewiswch o'r canlynol

(DD/MM/YYYY)
(DD/MM/BBBB)

Telerau Defnyddio

Dyma'r Telerau Defnyddio y mae'n rhaid cytuno â hwynt cyn sefydlu cyfrif.

Telerau ac Amodau Defnydd

Drwy ddefnyddio'r wefan hon rydych yn cytuno i dderbyn y telerau a'r amodau canlynol. Mae gwefan Swyddi a Gyrfaoedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.

Drwy gofrestru a chyflwyno cais rydych yn caniatáu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio a’i chadw at ddibenion asesu eich cais am gyflogaeth ac at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig â chyflogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin yn y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys y broses o gael geirda cyfrinachol.


Mae'r Cyngor yn ymroddedig i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod rhai dyletswyddau penodol arnom fel cyflogwr. Diben yr holiadur monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gofrestru yw crynhoi gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a’n harferion recriwtio a chyflogaeth a'u gwella ble bynnag y gallwn. Bydd yr holl wybodaeth y dewiswch ei darparu a’i diweddaru yn yr adran hon yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol, ac yn cael ei thrin yn unol ag egwyddorion Diogelu Data. I weld sut mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio'r data personol, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd:

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/diogelu-data/hysbysiadau-preifatrwydd/rheoli-pobl-gwasanaethau-pobl-adnoddau-dynol/

Os ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad mae’n bosibl y bydd angen ichi ateb cwestiynau ffurfiol ynghylch a oes gennych gollfarnau troseddol sydd heb ddarfod neu wŷs yn eich erbyn sy’n aros am ddedfryd. Mae’n rhaid datgelu collfarnau sydd heb ddarfod ar gyfer rhai swyddi, e.e. Gweithwyr Cymdeithasol ac Athrawon, gan fod y swyddi hyn wedi’u heithrio o ddarpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Mae cyfyngiadau gwleidyddol yn berthnasol i rai swyddi. Os bydd unrhyw rai o’r uchod yn berthnasol i’r swydd yr ydych yn ymgeisio amdani, bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhoi ichi.

Wrth gofrestru a chyflwyno cais rydych yn datgan bod y wybodaeth a ddarperir gennych yn wir ac yn gywir, a’ch bod yn deall y gallai unrhyw ddatganiad ffug, hepgoriad perthnasol neu unrhyw ffeithiau sy’n cael eu camliwio arwain at derfynu heb rybudd unrhyw gontract sydd gennych â Chyngor Sir Caerfyrddin. Rydych hefyd yn rhoi caniatâd penodol i ni brosesu’r wybodaeth yr ydych wedi’i darparu, yn unol â chofrestriad y Cyngor o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Yn ogystal gallai’r wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi inni gael ei defnyddio i atal troseddau a thwyll neu ei rhannu â chyrff eraill sy’n gweinyddu arian cyhoeddus i’r diben hwn yn unig.
      


Caiff e-bost ei anfon i'r cyfeiriad e-bost sydd wedi'i gofrestru a fydd yn cynnwys eich cyfrinair dros dro. Gallwch newid unrhyw fanylion sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen gofrestru hon ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i'ch cyfrif a chlicio ar "Golygu Proffil y Defnyddiwr" yn y bocs "Wedi Mewngofnodi" ar ochr chwith y ffenestr.


Manteision Cofrestru

Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.