Taliadau Uniongyrchol – Cynorthwyydd Personol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | |
Grŵp Swydd Wag: | Sefydliad Allanol |
Categori: | Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 09/06/2024 |
Dyddiad Postio: | 10/06/2024 |
Cyfeirnod: | CARMSPA |
Disgrifiad
Taliadau Uniongyrchol – Cynorthwyydd Personol
Lleoliadau amrywiol o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: I'w drafod
Math o gyflogaeth: Parhaol
Oriau'r wythnos: Amrywiol
Mae preswylwyr Sir Gaerfyrddin yn chwilio am ymgynghorwyr personol cyfeillgar a chefnogol i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymdeithasol. Dylech fod yn hyblyg i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn sy'n cael cymorth a'i helpu i wneud ei benderfyniadau ei hun ynghylch y gofal y mae'n ei dderbyn a'i annog i gynnal ei annibyniaeth.
Gwybodaeth amdanoch
Allech chi wneud gwahaniaeth?
Ydych chi'n mwynhau helpu pobl?
Ydych chi'n gyfathrebwr da?
Ydych chi wedi ymrwymo i gydraddoldeb a darparu cymorth o safon?
Mae'n bosibl y byddai'n ddefnyddiol pe bai gennych drwydded yrru a ffordd i ddefnyddio car i gefnogi pobl i fwynhau'r gweithgareddau o'u dewis; fodd bynnag, ni ddylai hyn eich atal rhag gwneud cais gan nad oes angen hyn ar rai pobl.
Ynglŷn â'r rôl
Cytunir ar eich oriau rhyngoch chi a'ch cyflogwr (fel arfer y person rydych yn ei gefnogi), a allai ei gwneud yn ofynnol i chi weithio sifftiau hyblyg, a all gynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc. Bydd eu gofynion manwl yn cael eu trafod yn y cyfweliad. Fodd bynnag, gall rhai tasgau cyffredin gynnwys:
• helpu gyda gwisgo a hylendid personol
• gwaith tŷ megis golchi, smwddio, coginio, a glanhau
• siopa
• cludiant a mynychu gweithgareddau dydd
• help gydag apwyntiadau meddygol a meddyginiaeth
Y manteision
Bydd y cyflog yn cael ei drafod gennych chi a'ch cyflogwr.
Eisiau gwneud cais am y rôl hon?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, mynegwch eich diddordeb drwy anfon neges e-bost at: SCHDirectPaymentsBrokerage@sirgar.gov.uk
Gellir mynegi diddordeb yn Gymraeg ac ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r penodiad hwn yn destun gwiriad datgelu DBS. (Byddem yn argymell bod gwasanaeth diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael. Bydd bod ar y gwasanaeth hwn yn eich galluogi i gyflymu unrhyw geisiadau am swyddi ar gyfer rolau cynorthwywyr personol yn y dyfodol. Sylwch fod tâl o £13.00 ar gyfer gwasanaeth hwn)
Os oes gennych unrhyw anghenion pellach neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni ar 01267 228751 neu drwy e-bostio SCHDirectPaymentsBrokerage@carmarthenshire.gov.uk_
Nodwch: Rydym yn gweithredu ar ran trydydd parti ac ni fyddwn yn gyflogwr i chi nac yn atebol am unrhyw faterion sy'n codi o'ch cyflogaeth pe baech yn cael cynnig cyflogaeth.