Gweithiwr Cymdeithasol Banc (Gwasanaethau Plant)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £36,648 (Gradd I) Pro Rata |
Lleoliad: | Parc Dewi Sant |
Ardal: | Caerfyrddin |
Math Swydd: | Achlysurol |
Grŵp Swydd Wag: | Adran Addysg a Phlant |
Categori: | Ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 28/02/2024 |
Dyddiad Postio: | 01/02/2024 |
Cyfeirnod: | 029212 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant) - Cyfleoedd Banc Hyblyg
Timau Gwaith Cymdeithasol ledled y Sir
£18.99 yr awr
Ydych chi'n chwilio am gyfle gwaith hyblyg i gyd-fynd â'ch ffordd o fyw? Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn datblygu cronfa o Weithwyr Cymdeithasol i weithio yn ei Dimau Gwaith Cymdeithasol amrywiol. Mae hwn yn gyfle delfrydol os ydych yn Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig profiadol sy'n chwilio am hyblygrwydd i gael cydbwysedd o ran eich bywyd a gwaith.
Byddai gwaith yn cael ei gynnig yn achlysurol, neu ar gontractau tymor byr cyfnodol.
Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cymwysedig (gradd mewn gwaith cymdeithasol, Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu Dystysgrif Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol) sydd â phrofiad ôl-gymhwyso a byddai cymwysterau pellach megis Aseswyr Budd Pennaf yn ddymunol.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant sefydlu cynhwysfawr a digon o gyfleoedd i fynd ar raglenni hyfforddiant a fydd yn eich helpu i ailgofrestru. Byddwch yn sicr o gael goruchwyliaeth broffesiynol yn gyson, cyfleoedd i weithio'n ystwyth ac yn cael eich cefnogi gan strwythur rheoli profiadol.
Dylai fod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd mewn lleoliad statudol.
Mae hon yn hysbyseb dreigl felly ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn cysylltu â chi i drafod ymhellach.
Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch cyfleoedd mewn Gwasanaethau Oedolion HÅ·n, cysylltwch â Noreen Jackman, Rheolwr Gwasanaeth ar 01554 742366.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i gau swyddi os derbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog cyflwyno ceisiadau'n gynnar er mwyn sicrhau cael eich hystyried am y swydd.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘Eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Noreen Jackman |
Ffôn: | 01554 742366 |
Cyfeiriad e-bost: | NJackman@carmarthenshire.gov.uk |