Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Chwilio am Swyddi... Swyddi a Gyrfaoedd Cofrestru Sut i Ymgeisio Cwestiynau cyffredin

Gweithiwr Cymdeithasol Banc (Gwasanaethau Oedolion)

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Cyflog: £36,648 (Gradd I) *Pro rata
Lleoliad: Parc Dewi Sant
Ardal: Caerfyrddin
Math Swydd: Achlysurol
Grŵp Swydd Wag: Cymunedau
Categori: Ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 28/02/2024
Dyddiad Postio: 01/02/2024
Cyfeirnod: 4/028879

Disgrifiad

 
Gweithiwr Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion) - Cyfleoedd Banc Hyblyg
 
Timau Gwaith Cymdeithasol ledled y Sir
 
£18.99 yr awr
 
Ydych chi'n chwilio am gyfle gwaith hyblyg i gyd-fynd â'ch ffordd o fyw? Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn datblygu cronfa o Weithwyr Cymdeithasol i weithio yn ei Dimau Gwaith Cymdeithasol amrywiol. Mae hwn yn gyfle delfrydol os ydych yn Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig profiadol sy'n chwilio am hyblygrwydd i gael cydbwysedd o ran eich bywyd a gwaith.
 
Byddai gwaith yn cael ei gynnig yn achlysurol, neu ar gontractau tymor byr cyfnodol.
 
Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cymwysedig (gradd mewn gwaith cymdeithasol, Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu Dystysgrif Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol) sydd â phrofiad ôl-gymhwyso a byddai cymwysterau pellach megis Aseswyr Budd Pennaf yn ddymunol.
 
Byddwch yn derbyn hyfforddiant sefydlu cynhwysfawr a digon o gyfleoedd i fynd ar raglenni hyfforddiant a fydd yn eich helpu i ailgofrestru. Byddwch yn sicr o gael goruchwyliaeth broffesiynol yn gyson, cyfleoedd i weithio'n ystwyth ac yn cael eich cefnogi gan strwythur rheoli profiadol.
 
Dylai fod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad o weithio gydag unrhyw un o'r grwpiau cleient.
 
Mae hon yn hysbyseb dreigl felly ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn cysylltu â chi i drafod ymhellach.
 
Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
 
I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch cyfleoedd mewn Gwasanaethau Oedolion HÅ·n, cysylltwch â Jayne Thomas, Rheolwr Ardal Teifi, Taf a Tywi drwy ffonio 01267 – 246942, neu ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, cysylltwch â Mark Evans, Uwch-Reolwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu drwy ffonio 01267-228917.
 
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
 
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i gau swyddi os derbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog cyflwyno ceisiadau'n gynnar er mwyn sicrhau cael eich hystyried am y swydd.
 
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘Eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
 
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud cais’ am y swydd hon.
 
 
 
 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Jayne Thomas
Ffôn: 01267 246942
Cyfeiriad e-bost: JayThomas@carmarthenshire.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr