Customer Service Officer
Vacancy Details
Summary | |
---|---|
Salary: | £19,650 - £20,444 (Grade D) |
Location: | Carmarthen Leisure Centre |
Region: | Carmarthen |
Job Type: | Permanent - Full Time |
Vacancy Group: | Communities |
Category: | Administration/Business Support |
Closing Date: | 06/06/2022 |
Date Posted: | 05/12/2022 |
Reference: | 3/030668 |
Description
Mae gan Actif - Adain Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin - bortffolio eang o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol sy'n denu dros filiwn o ymweliadau y flwyddyn; mae ganddi filoedd o aelodau canolfannau hamdden, ac mae’n casglu incwm gwerth miliynau o bunnoedd. Mae Tîm Cymorth Busnes ac Aelodaeth Actif yn darparu'r cymorth gweinyddol, ariannol, aelodaeth a rheoli system i alluogi gwasanaethau effeithlon ac effeithiol i'r staff a'r cyhoedd.
Rydym yn chwilio am 2 Swyddogion Gwasanaethau Cwsmeriaid ychwanegol i ymuno â'r tîm, sydd â phrofiad ac arbenigedd o ran delio â chwsmeriaid, i helpu i sicrhau bod ein systemau a'n gwasanaeth yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â thasgau cyffredinol o fewn y tîm sy'n cynnwys rheoli system, gweinyddol, ariannol ac aelodaeth.
Os mai chi yw’r chwaraewr tîm cydwybodol sy’n rhoi ‘sylw i fanylder’ yr ydym yn chwilio amdano, rydym yn croesawu eich cais.
Mae angen Cymraeg llafar i gyflawni'r swydd hon. Gellir estyn cymorth rhesymol ar ôl y penodiad i gyrraedd y lefel hon.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch Christine March - camarch@sirgar.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘Eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud cais’ am y swydd hon.
Downloads:
Contacts | |
---|---|
Contact 1 | |
Contact Name: | Christine March |
Telephone: | |
Email Address: | camarch@carmarthenshire.gov.uk |