Occupational Health Nurse
Vacancy Details
Summary | |
---|---|
Salary: | £34,723 (Grade I) Pro Rata |
Location: | St. David's Park |
Region: | Carmarthen |
Job Type: | Casual |
Vacancy Group: | Chief Executives |
Category: | Occupational Health / Employee Wellbeing |
Closing Date: | 02/14/2023 |
Date Posted: | 02/03/2023 |
Reference: | 026754 |
Description
£17.99 yr awr.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus a manwl i gefnogi'r Ganolfan Iechyd Galwedigaethol drwy fonitro iechyd y gweithlu drwy waith statudol i arolygu iechyd, archwiliadau meddygol digon iach i weithio a sgrinio ffordd o fyw rhagweithiol.
Bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor ac arweiniad un i un i weithwyr gan sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw bob amser er mwyn galluogi rheolwyr i gefnogi eu hiechyd a'u llesiant yn y gweithle.
Mae safon sgiliau TG, y gallu i weithio gyda gofynion sy'n tynnu'n groes i'w gilydd, bod yn empathetig ac yn hyblyg yn hanfodol i'r rôl hon. Mae'r gallu i weithio o fewn y protocolau cyfrinachedd a'r ddeddfwriaeth berthnasol, Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU / Deddf Diogelu Data 2018 yn allweddol.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r Uwch-bartner Busnes (Iechyd Galwedigaethol) a'r tîm Iechyd Galwedigaethol, gweithlu'r awdurdod a phartneriaid rhanbarthol ac allanol i gynnal iechyd, diogelwch a llesiant y gweithwyr yn y gweithle.
Bydd y swydd ar gyfer nyrs achlysurol.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Cindy Evans drwy ffonio 01267 246060
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘Eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud cais’ am y swydd hon.