Care Worker (Days)
Vacancy Details
Summary | |
---|---|
Salary: | £21,222 - £22,079 (Grade D) inclusive |
Location: | Llys y Bryn |
Region: | Llanelli |
Job Type: | Temporary - Part Time |
Vacancy Group: | Communities |
Category: | Health & Social Care |
Closing Date: | 08/08/2022 |
Date Posted: | 07/20/2022 |
Reference: | 1/010016 |
Description
1 Contract Dros Dro 30 awr (tan Hydref 22)
1 Contract Dros Dro 25 Awr (tan Hydref 22)
efallai bydd lwfans penwythnos yn berthnasol - Telir lwfans o 8% os ydych yn gweithio'n rheolaidd 2 ddiwrnod neu fwy ar y penwythnos allan o bob 4 wythnos
Mae croeso i weithwyr gofal profiadol a'r rheiny sy'n newydd i ofal wneud cais. Bydd yr unigolion yn gweithio fel rhan o dîm i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel mewn lleoliad gofal preswyl. Mae bod yn weithiwr Gofal yn rôl werth chweil ac rydym yn chwilio am unigolion sy'n frwdfrydig, yn angerddol, sydd ag agwedd gadarnhaol ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl rydym yn eu cefnogi.
Bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):
• Dyletswyddau Gofal Personol
• Symud a Thrin, gan ddefnyddio offer lle bo'r angen
• Paratoi Prydau Bwyd
• Cymorth gyda meddyginiaeth (yn unol â Pholisi Meddyginiaeth yr Awdurdod)
• Cymryd cyfarwyddyd gan weithwyr proffesiynol sy'n ymweld (Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, Meddyg Teulu, Nyrs Ardal ac ati)
Manteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin: Gwyliau blynyddol â thâl, Cynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol, Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, Cynllun Beicio i'r Gwaith, oriau gwarantedig dan gontract, patrwm gwaith rheolaidd, gwisg a chyfarpar diogelu personol (PPE) wedi'u darparu, pecyn sefydlu a hyfforddi llawn â thâl, a llwybr dilyniant gyrfa ardderchog.
Bydd disgwyl i'r holl staff gofal weithio tuag at QCF Lefel 2 at ddibenion cofrestru.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Jessica Owens ar 01554758132 / JJowens@sirgar.gov.uk
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Downloads:
Contacts | |
---|---|
Contact 1 | |
Contact Name: | Jessica Owens |
Telephone: | 01554 758132 |
Email Address: | JJowens@carmarthenshire.gov.uk |