Glanhawr(aig) (Dros dro a Chyflenwi)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £22,366 (Grade A) Pro rata |
Math Swydd: | Achlysurol |
Grŵp Swydd Wag: | Lle a Seilwaith |
Categori: | Glanhau/Gofalwr |
Dyddiad Cau: | 31/01/2024 |
Dyddiad Postio: | 08/01/2024 |
Cyfeirnod: | CASUALCL3 |
Disgrifiad
Gwaith dros dro/achlysurol yn ôl yr angen
£11.59 yr awr
Mae gennym gyfleoedd gwaith dros dro ac achlysurol i gyflenwi yn achos absenoldeb o fewn y Gwasanaeth Glanhau dan Gontract i weithio naill ai'n unigol neu fel rhan o dîm. Mae ein horiau gwaith yn ddelfrydol i gyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol a gwyliau ysgol, ac maent yn cynnwys sifftiau yn gynnar yn y bore, gyda'r nos ac ar benwythnosau. Mae gennym gyfleoedd glanhau mewn gwahanol sefydliadau ledled Sir Gaerfyrddin, e.e. ysgolion, swyddfeydd, canolfannau cynlluniau gwarchod, ac ati.
Er y byddai profiad a gwybodaeth am iechyd a diogelwch yn fanteisiol, nid oes angen profiad blaenorol o lanhau, a bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Os byddwch yn ymuno â'r tîm fel Glanhäwr Achlysurol drwy broses recriwtio'r Cyngor a bod swyddi dros dro ar gael wedyn, rydym yn gyffredinol yn penodi i'r swyddi hyn o'n cronfa o staff achlysurol.
Mae'r Gwasanaeth Glanhau wedi chwarae rhan allweddol o ran cadw pobl yn ddiogel yn ystod pandemig COVID 19 ac mae'n darparu gwasanaeth hanfodol i ysgolion cynradd ac uwchradd, a swyddfeydd ledled Sir Gaerfyrddin. Diben y rôl yw ymgymryd â thasgau glanhau, gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel sy'n sicrhau amgylchedd diogel a glân i staff, disgyblion ac ymwelwyr.
Mae angen gallu sylfaenol yn y Gymraeg i gyflawni'r swydd hon. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘Eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Heidi Sellick |
Ffôn: | 07920286909 |
Cyfeiriad e-bost: | HMSellick@carmarthenshire.gov.uk |