Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Chwilio am Swyddi... Swyddi a Gyrfaoedd Cofrestru Sut i Ymgeisio Cwestiynau cyffredin

Swyddog Cwsmeriaid

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Cyflog: £21,575 - £22,369 (Gradd D)
Math Swydd: Swydd barhaol - amser llawn
Grŵp Swydd Wag: Adran y Prif Weithredwr
Categori: Gwasanaethau Cwsmeriaid
Dyddiad Cau: 09/01/2023
Dyddiad Postio: 23/12/2022
Cyfeirnod: 1/004654

Disgrifiad

Gweithio hybrid/nifer o leoliadau ledled Sir Gâr.

Ydych chi'n dda gyda phobl? Ydych chi'n mwynhau helpu eraill?

Fel Asiant Cwsmeriaid, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer preswylwyr, gan ymdrin ag ystod eang o ymholiadau ar y ffôn ac ar-lein gan gynnwys ceisiadau am wasanaethau'r cyngor, gwneud apwyntiadau, rhoi cyngor ar amrywiaeth o geisiadau a helpu pobl i lenwi ffurflenni ar-lein.

Rydym yn chwilio am unigolion sy'n frwdfrydig, yn egnïol ac yn hunanysgogol, sy'n gallu addasu'n dda i unrhyw sefyllfa benodol wrth ddarparu gofal cwsmeriaid o ansawdd uchel.

Mae'r rôl amrywiol hon yn golygu nad yw dau ddiwrnod byth yr un fath ac rydym yn chwilio am bobl gwrtais a chymwynasgar i ymuno â'n tîm. Rydym yn mabwysiadu dull hyblyg o weithio sy'n cynnwys elfen o weithio gartref ond mae hefyd yn ofynnol weithio mewn swyddfeydd, yn ôl y gofyn, i gyflawni'r rôl a dyletswyddau eraill.  Nid yw profiad blaenorol yn hanfodol gan y gallwn ddarparu'r hyfforddiant angenrheidiol.

I gael trafodaeth anffurfiol cysylltwch ag Eifion Davies drwy ffonio 01558825267 neu e-bostio ewdavies@sirgar.gov.uk.

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
  
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch Lawrlwythiadau isod i weld copi  o'r Proffil Swydd. 
 
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio i ymgeisio am y swydd hon. 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Eifion Davies
Ffôn: 01558 825267
Cyfeiriad e-bost: ewdavies@carmarthenshire.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr