Swyddog Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £22,369 - £25,409 (Gradd E) |
Math Swydd: | Swydd barhaol - amser llawn |
Grŵp Swydd Wag: | Adran y Prif Weithredwr |
Categori: | Gwasanaethau Cwsmeriaid |
Dyddiad Cau: | 09/01/2023 |
Dyddiad Postio: | 23/12/2022 |
Cyfeirnod: | 1/001791 |
Disgrifiad
Gweithio hybrid/nifer o leoliadau ledled Sir Gâr.
Ydych chi'n dda gyda phobl? Ydych chi'n hoffi cwrdd â phobl a chynnig help iddyn nhw? Gallech fod yn berffaith ar gyfer ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid.
Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar a brwdfrydig ac sydd â sgiliau cyfathrebu gwych i weithio yn y rôl hon sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid.
Byddwch yn rhan bwysig o ddarparu gwasanaethau'r cyngor a byddwch yn helpu preswylwyr ag amrywiaeth eang o faterion o ddydd i ddydd.
Mae swyddi llawn amser, rhan-amser, parhaol a dros dro ar gael.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Lynda Richards-Davies am LARichards-Davies@sirgar.gov.uk
Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch Lawrlwythiadau isod i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio i ymgeisio am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Lynda Richards-Davies |
Ffôn: | |
Cyfeiriad e-bost: | LARichards-Davies@carmarthenshire.gov.uk |