Rheolwr Gweithrediadau
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £33,587 - £38,244 (Gradd H) yn cynnwys 8% |
Lleoliad: | Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn |
Ardal: | Pendine |
Math Swydd: | Swydd barhaol - amser llawn |
Grŵp Swydd Wag: | Cymunedau |
Categori: | Rheolwr |
Dyddiad Cau: | 05/03/2023 |
Dyddiad Postio: | 17/02/2023 |
Cyfeirnod: | 033029 |
Disgrifiad
Caban yw'r llety newydd â 43 gwely ar safle Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn ac mae disgwyl iddo agor ar ddechrau 2023.
Rydym yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau proffesiynol a phrofiadol i reoli gweithrediad dyddiol y gwesty a'r cyfleusterau cysylltiedig. Bydd hyn yn cynnwys rheoli tîm blaen tŷ, tîm cadw tŷ, tîm glanhau, cynorthwyydd cynnal a chadw a phorthorion nos.
Mae profiad o reoli amser, rotas, amserlennu, Iechyd a Diogelwch a chydymffurfiaeth ariannol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a llwyddiant y cyfleuster newydd hwn.
Bydd y rôl hon yn rhan o'r rota rheolwyr dyletswydd, gan gynnwys penwythnosau.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Mags Pullen - 01554 742368 / Caban@sirgar.gov.uk
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mags Pullen |
Ffôn: | 01554 742368 |
Cyfeiriad e-bost: | caban@carmarthenshire.gov.uk |