Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Chwilio am Swyddi... Swyddi a Gyrfaoedd Cofrestru Sut i Ymgeisio Cwestiynau cyffredin

Gweithiwr Gofal (Dydd) - Cartref Gofal Dolyfelin

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Cyflog: £23,301 - £24,158 (Gradd D) yn cynnwys 8% Pro-rata
Lleoliad: Cartref Preswyl Dolyfelin
Ardal: St Clears
Math Swydd: Swydd barhaol - rhan-amser
Grŵp Swydd Wag: Cymunedau
Categori: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 13/03/2023
Dyddiad Postio: 14/03/2023
Cyfeirnod: 26/010012

Disgrifiad

25 awr yr wythnos.

£12.07 - £12.52 yr awr.

Mae croeso i weithwyr gofal profiadol a'r rheiny sy'n newydd i ofal wneud cais. 

Bydd yr unigolion yn gweithio fel rhan o dîm i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel mewn lleoliad gofal preswyl. 

Mae bod yn weithiwr Gofal yn rôl werth chweil ac rydym yn chwilio am unigolion sy'n frwdfrydig, yn angerddol, sydd ag agwedd gadarnhaol ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl rydym yn eu cefnogi.

Bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):

• Dyletswyddau Gofal Personol 

• Symud a Thrin, gan ddefnyddio offer lle bo'r angen 

• Paratoi Prydau Bwyd 

• Cymorth gyda meddyginiaeth (yn unol â Pholisi Meddyginiaeth yr Awdurdod) 

• Cymryd cyfarwyddyd gan weithwyr proffesiynol sy'n ymweld (Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, Meddyg Teulu, Nyrs Ardal ac ati) 

Manteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin: Gwyliau blynyddol â thâl, Cynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol, Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, Cynllun Beicio i'r Gwaith, oriau gwarantedig dan gontract, patrwm gwaith rheolaidd, gwisg a chyfarpar diogelu personol (PPE) wedi'u darparu, pecyn sefydlu a hyfforddi llawn â thâl, a llwybr dilyniant gyrfa ardderchog.

Bydd disgwyl i'r holl staff gofal weithio tuag at QCF Lefel 2 at ddibenion cofrestru.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â  Julie Griffiths neu Jason Gregory  ar 01994 230039.
                                                                            
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Julie Griffiths/Jason Gregory
Ffôn: 01994 230039
Cyfeiriad e-bost:

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr