Warden Gwersyllfa Cynorthwyol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £23,301 - £24,158 (Gradd D) yn cynnwys 8% Pro-rata |
Lleoliad: | Parc Gwledig Pen-bre |
Ardal: | Llanelli |
Math Swydd: | Swydd dros dro - rhan-amser |
Grŵp Swydd Wag: | Cymunedau |
Categori: | Rheoli Cefn Gwlad |
Dyddiad Cau: | 14/03/2023 |
Dyddiad Postio: | 28/02/2023 |
Cyfeirnod: | 026719 |
Disgrifiad
Mae Parc Gwledig Pen-bre am benodi dau Warden Gwersyllfa Tymhorol ar gyfer tymor 2023. Rhaid iddynt fod yn hyderus, yn gymdeithasol a mwynhau gweithio gyda'r cyhoedd.
Byddai gweithio mewn swydd flaenorol mewn gwersyllfa/ym maes twristiaeth yn fanteisiol.
Mae'r swyddi’n rhan-amser am o leiaf 20 awr yr wythnos.
Y swydd yw sicrhau bod y wersyllfa yn rhedeg yn esmwyth, drwy sicrhau bod y toiledau a'r cawodydd yn lân, cyfarfod â gwersyllwyr a'u gosod ar leiniau, delio ag unrhyw gwynion, tasgau cynnal a chadw bach ac, yn bennaf oll, sicrhau bod pawb yn cael gwyliau da.
Mae angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio ar benwythnosau a gyda'r nos a gallu aros ar y safle fel rhan o rota.
Mae’r swyddi hyn am 32 wythnos o’r flwyddyn rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Mark Mansfield ar MMansfield@sirgar.gov.uk neu 01554 742435
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mark Mansfield |
Ffôn: | 01554 742435 |
Cyfeiriad e-bost: | MMansfield@carmarthenshire.gov.uk |