Cynorthwydd Gwasanaeth Cwsmeriaid
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £22,076 - £22,477 (Gradd B) yn cynnwys 8% Pro-rata |
Lleoliad: | Parc Gwledig Pen-bre |
Ardal: | Llanelli |
Math Swydd: | Swydd barhaol - rhan-amser |
Grŵp Swydd Wag: | Cymunedau |
Categori: | Gwasanaethau Cwsmeriaid |
Dyddiad Cau: | 04/12/2022 |
Dyddiad Postio: | 23/11/2022 |
Cyfeirnod: | 032946 |
Disgrifiad
15 awr yr wythnos
Mae Parc Gwledig Pen-bre yn chwilio am Gynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmeriaid i weithio yn ein canolfan ymwelwyr brysur am o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos (15 awr yr wythnos).
Bydd deiliad y swydd yn ymwneud â chwsmeriaid gan ddelio ag archebion gwersylla a gweithgareddau, ymholiadau ynghylch y rhwystrau, gwerthu tocynnau blynyddol ac ateb ymholiadau ynghylch y Parc Gwledig.
Er y byddai profiad mewn rôl flaenorol yn ymwneud â chwsmeriaid sydd wedi defnyddio systemau archebu yn fanteisiol, nid yw'n hanfodol.
Mae hon yn swydd barhaol sy'n gofyn am weithio ar y penwythnos a gyda'r nos ar sail rota.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Emma Thomas ar 01554 742304 /emlthomas@sirgar.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Emma Thomas |
Ffôn: | 01554 742304 |
Cyfeiriad e-bost: | emlthomas@carmarthenshire.gov.uk |