Senior Swimming Teacher (Carmarthen)
Vacancy Details
Summary | |
---|---|
Salary: | £22,369 - £25,409 (Grade E) Pro-rata |
Location: | Carmarthen Leisure Centre |
Region: | Carmarthen |
Job Type: | Permanent - Part Time |
Vacancy Group: | Communities |
Category: | Sports & Leisure |
Closing Date: | 12/15/2022 |
Date Posted: | 12/15/2022 |
Reference: | 1/028675 |
Description
7 awr yr wythnos.
Uchelgais Adran Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin yw gwella lles drwy ysbrydoli ein poblogaeth i fod yn egnïol am oes. Byddwn yn creu Sir Gaerfyrddin egnïol ac yn sefydlu ein hunain fel y gwasanaeth mwyaf llwyddiannus ac y gellir ymddiried ynddo yn y DU.
Rydym wedi ymroi i gael effaith gadarnhaol ar iechyd, ffitrwydd a llythrennedd corfforol pobl, yn ogystal â darparu cyfleusterau, cyfleoedd a gwasanaethau y mae pobl yn eu mwynhau ac yn eu hargymell. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, cryf eu cymhelliant, ac egnïol i ymuno â'n tîm. Os ydych chi'n meddu ar y rhinweddau hynny, beth am ein helpu ni i wneud gwahaniaeth?
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau rhyngweithio rhagorol a gweithio'n dda mewn amgylchedd gwaith heriol. Dylai ymgeiswyr hefyd fod wedi ennill cymhwyster Athro Nofio Lefel 2.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:
• Cefnogi'r gwaith o gynnal y rhaglen gwersi nofio o ddydd i ddydd yng nghanolfannau hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, gan sicrhau bod y safonau uchaf posibl o ran y ddarpariaeth a gofalu am gwsmeriaid yn cael eu cyflawni bob amser.
• Goruchwylio a chefnogi tîm o Athrawon Nofio er mwyn gwella ansawdd profiad y cwsmeriaid ar gyfer pob oedran a gallu, gan gynnwys y gwaith o gynllunio, addysgu, dysgu ac asesu yn y ganolfan.
• Cefnogi cyfranogwyr i symud a datblygu'n effeithlon o fewn y rhaglen ddŵr.
• Annog diwylliant o fyfyrio er mwyn llywio cynlluniau yn y dyfodol.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Sharon Owens am ShOwens@sirgar.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Downloads:
Contacts | |
---|---|
Contact 1 | |
Contact Name: | Sharon Owens |
Telephone: | |
Email Address: | ShOwens@carmarthenshire.gov.uk |