Cynorthwyydd Trethiant Lleol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £21,575 - £22,369 (Gradd D) |
Lleoliad: | Ty Elwyn |
Ardal: | Llanelli |
Math Swydd: | Swydd barhaol - amser llawn |
Grŵp Swydd Wag: | Adran Gwasanaethau Corfforaethol |
Categori: | Cyllid |
Dyddiad Cau: | 15/08/2023 |
Dyddiad Postio: | 26/07/2023 |
Cyfeirnod: | 5/005210 |
Disgrifiad
2 swydd ar gael
Mae cyfle i unigolyn brwd ac ymroddedig weithio mewn maes prysur a thechnegol lle ceir cysylltiad helaeth â chwsmeriaid a lle mae gwaith tîm yn hanfodol bwysig.
Mae Adain y Dreth Gyngor yn wasanaeth rheng flaen sy'n gyfrifol am weinyddu 88,000 o gyfrifon Treth Gyngor yr Awdurdod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n pennu ac yn gwneud newidiadau i daliadau treth gyngor yn sgil newid perchenogaeth a meddiannaeth eiddo, ynghyd â phennu hawl i'r amrywiaeth eang o eithriadau a gostyngiadau statudol a ganiateir o dan gyfraith y Dreth Gyngor. Yn ogystal, bydd y dyletswyddau'n cynnwys delio ag ymholiadau ynghylch atebolrwydd a chymryd camau i adennill costau mewn perthynas â chyfrifon heb eu talu.
Mae'r Cyngor yn gweithredu system Treth Gyngor gyfrifiadurol gwbl integredig, felly mae ymagwedd hyderus at weithio â systemau TG yn hanfodol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyflogwr Buddsoddwyr mewn Pobl achrededig.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion i'n gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn hael, dyraniad da o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc, trefniadau gweithio hyblyg a hybrid, cynllun buddion staff a gwasanaethau cymorth iechyd a llesiant.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Ann Thomas am AnThomas@Carmarthenshire.gov.uk neu Steff Thomas am SWThomas@carmarthenshire.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Ann Thomas |
Ffôn: | |
Cyfeiriad e-bost: | AnThomas@carmarthenshire.gov.uk |