Skip to Main Content

Main Navigation

Search Job Vacancies Jobs & Careers Register How to Apply FAQs

Local Taxation Assistant

Vacancy Details


Summary
Salary: £21,575 - £22,369 (Grade D)
Location: Ty Elwyn
Region: Llanelli
Vacancy Group: Corporate Services
Category: Finance
Closing Date: 01/25/2023
Date Posted: 01/11/2023
Reference: 5/005210

Description


3 swydd ar gael;  2 x swydd parhaol a 1 x swydd dros dro tan 31/03/2023

Mae cyfle i unigolyn brwd ac ymroddedig weithio mewn maes prysur a thechnegol lle ceir cysylltiad helaeth â chwsmeriaid a lle mae gwaith tîm yn hanfodol bwysig. 

Mae Adain y Dreth Gyngor yn wasanaeth rheng flaen sy'n gyfrifol am weinyddu 88,000 o gyfrifon Treth Gyngor yr Awdurdod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n pennu ac yn gwneud newidiadau i daliadau treth gyngor yn sgil newid perchenogaeth a meddiannaeth eiddo, ynghyd â phennu hawl i'r amrywiaeth eang o eithriadau a gostyngiadau statudol a ganiateir o dan gyfraith y Dreth Gyngor.  Yn ogystal, bydd y dyletswyddau'n cynnwys delio ag ymholiadau ynghylch atebolrwydd a chymryd camau i adennill costau mewn perthynas â chyfrifon heb eu talu. 

Mae'r Cyngor yn gweithredu system Treth Gyngor gyfrifiadurol gwbl integredig, felly mae ymagwedd hyderus at weithio â systemau TG yn hanfodol.  

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyflogwr Buddsoddwyr mewn Pobl achrededig. 

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion i'n gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn hael, dyraniad da o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc, trefniadau gweithio hyblyg a hybrid, cynllun buddion staff a gwasanaethau cymorth iechyd a llesiant.

Mae angen Cymraeg llafar i gyflawni'r swydd hon. Gellir estyn cymorth ar ôl y penodiad i gyrraedd y lefel hon.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Ann Thomas am AnThomas@Carmarthenshire.gov.uk neu Steff Thomas am SWThomas@carmarthenshire.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd. 

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon. 

Downloads:

Contacts
Contact 1
Contact Name: Ann Thomas
Telephone:
Email Address: AnThomas@carmarthenshire.gov.uk

Account Navigation

Not Registered?

  • Registering enables you to save personal information which saves you time when entering details, allows you to apply for jobs and manage your job applications.
  • Register Now