Graduate Software Developer
Vacancy Details
Summary | |
---|---|
Salary: | £21, 968 (Graduate) |
Location: | St. David's Park |
Region: | Carmarthen |
Job Type: | Temporary - Full Time |
Vacancy Group: | Chief Executives |
Category: | Graduate Scheme |
Closing Date: | 03/14/2023 |
Date Posted: | 03/10/2023 |
Reference: | 032949 |
Description
Ydych chi am ddringo'r ysgol yrfa?
Ydych chi eisiau ennill Cymhwyster Ôl-raddedig neu Broffesiynol mewn maes perthnasol…
Beth am edrych ar y cyfleoedd i raddedigion yng Nghyngor Sir Caerfyrddin? Does dim amheuaeth ein bod ni'n un o'r awdurdodau lleol mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru, gyda hanes cryf o gyflwyno rhaglen Graddedigion arobryn gyda'n Gwerthoedd Craidd wrth wraidd popeth a wnawn, yn arbennig ein gwerthoedd cyffredinol o weithio fel 'Un Tîm’
Mae Gwasanaethau TGCh yn cyflogi oddeutu 70 aelod o staff, gan gynnig amrywiaeth eang o atebion TG i breswylwyr a staff Sir Gaerfyrddin.
Hoffech chi weithio mewn amgylchedd bywiog, creadigol a helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau digidol?
Rydym yn chwilio am Ddatblygwr Meddalwedd Graddedig uchelgeisiol a gweithgar i ymuno â'n tîm TGCh. Mae'r swydd hon yn swydd dechnegol, i gyflawni a chefnogi prosiectau datblygu meddalwedd.
Bydd y rôl yn cynnwys cyfathrebu a gweithio'n agos gydag aelodau eraill o'r tîm, staff, a chyflenwyr.
Dylech hefyd fwynhau cael y wybodaeth ddiweddaraf am dechnolegau digidol a gwe sy'n dod i'r amlwg er mwyn helpu i awgrymu sut y gallwn wella'r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau.
Mae gwybodaeth dechnegol yn unrhyw un o'r meysydd canlynol yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol: C#, ASP.Net, SQL Server, Power BI, HTML a Power Apps/Power Automate.
Manteision y rhaglen i raddedigion:
Cymhwyster: Astudio am Gymhwyster Ôl-raddedig neu Broffesiynol perthnasol mewn maes perthnasol
Cyflog: £21, 968 y flwyddyn sefydlog
Hyd y rhaglen: 2 flynedd
Cymorth: Rhaglen datblygu proffesiynol drwy gyrsiau mewnol ac allanol, seminarau, a gweithdai, ynghyd â mynediad at fentora a hyfforddi gan uwch-reolwyr.
Fel rhan o'r broses recriwtio bydd angen i chi wneud y canlynol:
• Mynychu Canolfan Asesu wyneb yn wyneb (yr Wythnos sy'n Dechrau ar 27 Mawrth 2023)
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ben Grice am BGrice@sirgar.gov.uk / 01267 246293
Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Downloads:
Contacts | |
---|---|
Contact 1 | |
Contact Name: | Ben Grice |
Telephone: | 01267 246293 |
Email Address: | BGrice@carmarthenshire.gov.uk |