Skip to Main Content

Main Navigation

Search Job Vacancies Jobs & Careers Register How to Apply FAQs

Roadworker 2

Vacancy Details


Summary
Salary: £24,294 - £27,334 (Grade E)
Location: Llandovery Depot
Region: Llandovery
Job Type: Permanent - Full Time
Vacancy Group: Place and Infrastructure
Category: Highways & Construction
Closing Date: 11/29/2023
Date Posted: 11/15/2023
Reference: 2/013723

Description

Mae cyfle i unigolion brwdfrydig a hyblyg ymuno â'r Is-adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth i gynorthwyo'r Rheolwr Gwasanaethau Priffyrdd i reoli a chyflawni swyddogaethau'r Gwasanaethau Priffyrdd yn gyffredinol ledled Sir Gaerfyrddin. 
 
Yn benodol, byddwch yn gyfrifol am ymgymryd â thasgau arbenigol fel Arweinydd Tîm (Gweithiwr Ffordd 2) ar gyfer tîm priffyrdd gweithredol sydd wedi'i leoli mewn depo ac sy'n gysylltiedig yn bennaf â gwaith cynnal a chadw ac adeiladu ffyrdd, troedffyrdd, strwythurau a charthffosydd dŵr wyneb. Gallai hyn gynnwys cloddio ffosydd, gosod draeniau, adeiladu tyllau archwilio, gosod cyrbau, gweithio gyda choncrit a gosod tarmac. Tasgau cynnal a chadw arferol a chylchol megis torri porfa, cynnal a chadw coed a chloddiau, chwistrellu chwyn, glanhau cyffredinol ac ysgubo asedau'r priffyrdd.
 
Hefyd, bydd y dyletswyddau'n cynnwys gwaith ymateb brys ar y priffyrdd y tu allan i'r oriau arferol a swyddogaethau graeanu'r ffordd yn y gaeaf, a byddwch yn cael eich rhoi ar rota wrth gefn. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio yn yr awyr agored ym mhob math o dywydd.
 
Lleolir y swyddi yn Nepo Llanymddyfri.
 
Rhaid i'r ymgeiswyr feddu ar wybodaeth fanwl o waith adeiladu a chynnal priffyrdd ym maes peirianneg sifil, a meddu ar brofiad blaenorol o arwain tîm. Rhaid ichi feddu ar wybodaeth gyflawn a phrofiad ymarferol o reoliadau ac arferion iechyd a diogelwch, a dealltwriaeth drylwyr o asesiadau risg a systemau gweithio diogel.
 
Bydd gennych sgiliau da o ran cyfathrebu a threfnu, i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon ac yn bodloni dyddiadau cau a thargedau. 
 

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Stuart Quick am SLQuick@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.

Downloads:

Contacts
Contact 1
Contact Name: Stuart Quick
Telephone:
Email Address: SLQuick@carmarthenshire.gov.uk

Account Navigation

Not Registered?

  • Registering enables you to save personal information which saves you time when entering details, allows you to apply for jobs and manage your job applications.
  • Register Now