Attendant - Llanelli Leisure Centre
Vacancy Details
Summary | |
---|---|
Salary: | £23,500 (Grade D) Pro-rata |
Location: | Llanelli Leisure Centre |
Region: | Llanelli |
Job Type: | Casual |
Vacancy Group: | Communities |
Category: | Sports & Leisure |
Date Posted: | 12/13/2023 |
Reference: | 1/008436 |
Description
£12.18 yr awr.
Nod Adain Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin yw cael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach gan sicrhau:
• Taw Sir Gaerfyrddin yw’r lle mwyaf heini ac iach yn y Deyrnas Unedig.
• Bod Sir Gaerfyrddin yn rhywle lle mae pob unigolyn yn cymryd rhan weithgar mewn 'clwb cymunedol’ neu 'gyfleuster hamdden’
• Bod Sir Gaerfyrddin yn rhywle lle mae pob plentyn wedi gwirioni ar gadw'n heini am weddill ei oes
Rydym wedi ymroi i gael effaith gadarnhaol ar iechyd, ffitrwydd a llythrennedd corfforol pobl, yn ogystal â darparu cyfleusterau, cyfleoedd a gwasanaethau y mae pobl yn eu mwynhau ac yn eu hargymell.
Rydym yn chwilio am unigolion brwd, egnïol, cryf eu cymhelliad i ymuno â'n tîm o hyfforddwyr ffitrwydd i weithio'n achlysurol yn y gampfa (yn ystod cyfnodau salwch, gwyliau blynyddol a digwyddiadau eraill pan fydd angen staff ychwanegol).
Bydd yn rhaid i'r ymgeiswyr feddu ar sgiliau ardderchog o ran ymwneud ag eraill, a byddant yn gallu gweithio'n dda mewn amgylchedd gwaith anodd a bod yn hyblyger mwyn gwneud gwaith sifft gyda'r hwyr ac ar benwythnosau.
Yn ogystal, dylai'r ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 2 REPS a bod yn gweithio tuag at gyrraedd statws Uwch-hyfforddwr/Hyfforddwr Personol Lefel 3. Byddai cymwysterau cyfredol o ran grwpiau ymarfer corff a'r hyder i ddarparu dosbarthiadau ar gyfer grwpiau mawr yn fanteisiol hefyd.
Ymunwch â thîm sy'n rhannu eich brwdfrydedd ynghylch iechyd a lles a rhowch eich gwybodaeth ar waith gan weithio gydag amrywiaeth eang o gleientiaid, asesu eu hanghenion, datblygu cynlluniau a heriau ffitrwydd, monitro eu cynnydd a'u perfformiad a helpu'r cleientiaid i fod yn fwy egnïol yn amlach.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ian Wright ar 01554 774757 / IWright@sirgar.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Downloads:
Contacts | |
---|---|
Contact 1 | |
Contact Name: | Ian Wright |
Telephone: | 01554 774757 |
Email Address: | IWright@carmarthenshire.gov.uk |