Barista
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £24,155 - £24,556 (Gradd B) yn cynnwys 8% Pro-rata |
Lleoliad: | Parc Gwledig Pen-bre |
Ardal: | Llanelli |
Math Swydd: | Swydd barhaol - rhan-amser |
Grŵp Swydd Wag: | Cymunedau |
Categori: | Arlwyo |
Dyddiad Cau: | 13/02/2024 |
Dyddiad Postio: | 29/01/2024 |
Cyfeirnod: | 2/027960 |
Disgrifiad
Mae Parc Gwledig Pen-bre yn chwilio am farista blaen tÅ· sy'n frwdfrydig ac yn barod i fynd yr ail filltir er mwyn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Nid yw profiad blaenorol yn hanfodol oherwydd gallwn ddarparu hyfforddiant, ond mae carisma a brwdfrydedd yn hanfodol. Mae'n adran hynod o brysur ac yn faes gwaith sy'n gofyn llawer yn un o'n siopau Bwyd a Diod ar y safle.
Mae'r rôl hon yn swydd barhaol am 22.5 awr yr wythnos.
Bydd angen bod gan yr unigolyn sgiliau gwych o ran gweithio mewn tîm, yn gallu gweithio ar ei ben ei hun yn fanwl gywir a hynny o dan bwysau, yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu ac adrodd rhagorol ac yn ddelfrydol yn meddu ar wybodaeth eang am gyfleusterau hamdden/diwydiant twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Bydd y swydd yn cynnwys rhywfaint o waith gyda'r hwyr ac ar benwythnosau.
Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Mike Dougall ar mdougall@sirgar.gov.uk / 01554 742423.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mike Dougall |
Ffôn: | 01554 742423 |
Cyfeiriad e-bost: | mdougall@carmarthenshire.gov.uk |