Cynorthwyydd Gwybodaeth - Rheoli Gwastraff
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £24,294 - £27,334 (Gradd E) |
Lleoliad: | Parc Myrddin |
Ardal: | Caerfyrddin |
Math Swydd: | Swydd dros dro - amser llawn |
Grŵp Swydd Wag: | Lle a Seilwaith |
Categori: | Amgylcheddol, Gwastraff ac Ailgylchu |
Dyddiad Cau: | 10/04/2024 |
Dyddiad Postio: | 27/03/2024 |
Cyfeirnod: | 1/002913 |
Disgrifiad
Dwlu ar ddata? Ydy ffigyrau ac ystadegau'n gweithio i chi?
Ymunwch â'n tîm ailgylchu.
Swydd Dros Dro – amser llawn - tan 5 Ionawr 2025.
Rydym eisiau penodi swyddog ymroddedig, brwdfrydig sy'n meddu ar gymhelliant cryf i ymuno â'n tîm ailgylchu.
Byddwch yn coladu, dadansoddi ac yn gwirio ffigurau o ran tunellau o wastraff sy'n cael eu casglu, eu hailgylchu a'u hailddefnyddio, symudiadau cerbydau, staffio ac adnoddau stoc a byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddogfennu ac adrodd ar ffigurau ailgylchu'r sir er mwyn cyrraedd targedau statudol Llywodraeth Cymru o ran ailgylchu.
Os ydych yn dwlu ar ddata ac eisiau gofalu am yr amgylchedd, rydym eisiau clywed gennych.
Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Allinson ar AAllinson@sirgar.gov.uk / 01267 224518.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Allinson ar AAllinson@sirgar.gov.uk / 01267 224518.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Ann Allinson |
Ffôn: | 01267 224518 |
Cyfeiriad e-bost: | AAllinson@carmarthenshire.gov.uk |