Uwch-swyddog Cyflwyno Prosiectau
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £40,221 - £44,428 (Gradd J) |
Lleoliad: | Parc Myrddin |
Ardal: | Caerfyrddin |
Math Swydd: | Swydd barhaol - amser llawn |
Grŵp Swydd Wag: | Cymunedau |
Categori: | Rheoli/Cydlynu Prosiectau |
Dyddiad Cau: | 12/05/2024 |
Dyddiad Postio: | 17/04/2024 |
Cyfeirnod: | 019889 |
Disgrifiad
Mae cyfle cyffrous iawn ar gael i unigolyn hynod frwdfrydig, hyblyg a threfnus weithio yn yr Is-adran Eiddo Tai a Phrosiectau Strategol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd ag agwedd gadarnhaol, sy'n hyblyg ac yn frwdfrydig iawn i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r ffordd rydym yn cyflawni ac yn gwella cynlluniau adeiladu cysylltiedig â thai yn ogystal â rhaglenni gwella cylchol ar draws portffolio y Cyngor sy'n cynnwys dros 9,300 o dai.
Byddwch yn gyfrifol am:
• Ymgymryd â phob agwedd ar ddyletswyddau rheoli prosiectau ar gyfer cynlluniau gwella tai.
• Cynllunio a chyflawni cynlluniau adeiladu cysylltiedig â thai ar raddfa fawr, gan reoli cyllideb, rhaglenni a safonau
ansawdd.
• Arwain o ran datblygu rhaglenni prosiectau, gan sicrhau bod adroddiadau effeithiol yn cael eu cyflwyno ynghylch cynnydd prosiectau a gwybodaeth ariannol berthnasol.
Mae staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio wythnos safonol 37 awr, yn derbyn gwyliau hael, tâl salwch a phensiwn, ynghyd â manteision eraill i weithwyr, fel y nodir ar y dudalen we hon:
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Luke Davies-Lovell, Rheolwr Rhaglenni Cynlluniedig Tai LLDLovell@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 07855 170 461.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Luke Davies-Lovell |
Ffôn: | 07855 170 461 |
Cyfeiriad e-bost: | LLDLovell@carmarthenshire.gov.uk |