Clerc Cyllid
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £23,500 - £24,294 (Gradd D) |
Lleoliad: | 3 Heol Spilman |
Ardal: | Caerfyrddin |
Math Swydd: | Swydd barhaol - amser llawn |
Grŵp Swydd Wag: | Adran Gwasanaethau Corfforaethol |
Categori: | Cyllid |
Dyddiad Cau: | 08/05/2024 |
Dyddiad Postio: | 17/04/2024 |
Cyfeirnod: | 019007 |
Disgrifiad
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig a brwdfrydig lenwi swydd o fewn yr Adain Incwm, sy'n wasanaeth rheng flaen gyda chyfrifoldeb dros anfonebu a chasglu incwm amrywiol (Mân Ddyledion) sy'n daladwy i'r Cyngor.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig ac ymroddedig sy'n gweithio'n dda mewn tîm a bydd yn meddu ar sgiliau da o ran trefnu, cyfathrebu ac ymwneud ag eraill, a phrofiad o ymdrin â chwsmeriaid, yn ddelfrydol mewn gweithle prysur lle derbynnir arian i gyfrifon.
Mae'r Cyngor yn gweithredu system anfonebu gyfrifiadurol gwbl integredig, felly mae ymagwedd hyderus at weithio â systemau TG yn hanfodol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyflogwr Buddsoddwyr mewn Pobl achrededig. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion i'n gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn hael, dyraniad da o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc, trefniadau gweithio hyblyg a hybrid, cynllun buddion staff a gwasanaethau cymorth iechyd a llesiant.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Thomas ar AnThomas@sirgar.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Ann Thomas |
Ffôn: | |
Cyfeiriad e-bost: | AnThomas@carmarthenshire.gov.uk |