Warden Gwersylla
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £26,421 - £ 30,296 (Gradd F) |
Lleoliad: | Parc Gwledig Pen-bre |
Ardal: | Llanelli |
Math Swydd: | Swydd barhaol - amser llawn |
Grŵp Swydd Wag: | Cymunedau |
Categori: | Chwaraeon a Hamdden |
Dyddiad Cau: | 10/03/2024 |
Dyddiad Postio: | 13/03/2024 |
Cyfeirnod: | 019848 |
Disgrifiad
Ydych chi'n chwilio am yrfa gyffrous a gwerth chweil yn yr awyr agored? Ydych chi'n mwynhau gwersylla a chwrdd â phobl newydd? Os felly, efallai mai chi yw'r ymgeisydd perffaith i fod yn warden ar ein safle gwersylla!
Mae ein safle gwersylla yn Sir Gaerfyrddin, Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau a gweithgareddau ar gyfer ein gwesteion. Rydym yn chwilio am warden safle gwersylla amser llawn parhaol i ymuno â'n tîm cyfeillgar a phroffesiynol.
Fel warden safle gwersylla, byddwch yn gyfrifol am:
- Croesawu a chofrestru gwesteion, a rhoi gwybodaeth a chymorth iddynt
- Cynnal glendid a diogelwch y safle gwersylla, gan gynnwys y toiledau, cawodydd, a mannau gwaredu gwastraff
- Sicrhau diogelwch y safle gwersylla a gorfodi'r rheolau a'r rheoliadau
- Ymdrin ag unrhyw faterion neu gwynion a allai godi
I fod yn warden safle gwersylla llwyddiannus, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Angerdd am wersylla a'r awyr agored
- Sgiliau rhagorol o ran gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu
- Agwedd gyfeillgar, hyblyg a chadarnhaol
- Parodrwydd i weithio'n galed a dysgu sgiliau newydd
Bydd gofyn i chi aros dros nos ar y safle gwersylla yn y llety a ddarperir a gallai hyn fod hyd at 5 noson yr wythnos.
Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Mark Mansfield ar mmansfield@sirgar.gov.uk neu Mags Pullen ar mpullen@sirgar.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch ‘eitemau a lawrlwythwyd’ i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm ‘Gwneud Cais’ am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mags Pullen |
Ffôn: | |
Cyfeiriad e-bost: | mpullen@carmarthenshire.gov.uk |
Cyswllt 2 | |
Enw'r cyswllt: | Mark Mansfield |
Ffôn: | |
Cyfeiriad e-bost: | mmansfield@carmarthenshire.gov.uk |