Swyddog Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Cyflog: | £24,294 - £27,334 (Gradd E) |
Lleoliad: | Yr Hwb, Heol Stepney, Llanelli |
Ardal: | Llanelli |
Grŵp Swydd Wag: | Adran y Prif Weithredwr |
Categori: | Gwasanaethau Cwsmeriaid |
Dyddiad Cau: | 07/05/2024 |
Dyddiad Postio: | 23/04/2024 |
Cyfeirnod: | 2/001791 |
Disgrifiad
Ydych chi'n dda gyda phobl? Ydych chi'n hoffi cwrdd â phobl a chynnig help iddyn nhw? Gallech chi fod yn berffaith ar gyfer ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid.
Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar a brwdfrydig sydd â sgiliau cyfathrebu gwych i weithio yn y rôl hon sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Byddwch yn rhan bwysig o ddarparu gwasanaethau'r cyngor a byddwch yn helpu preswylwyr ag amrywiaeth eang o faterion o ddydd i ddydd.
Rydym yn cynnig ein gwasanaethau'n ddwyieithog, felly Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Mae ein swyddfeydd wedi'u lleoli yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Lynda Richards-Davies am 07812479226 / LARichards-Davies@sirgar.gov.uk
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch Lawrlwythiadau isod i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio i ymgeisio am y swydd hon.
Cliciwch ar y ddolen yn y blwch Lawrlwythiadau isod i weld copi o'r Proffil Swydd.
Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio i ymgeisio am y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Lynda Richards-Davies |
Ffôn: | 07812479226 |
Cyfeiriad e-bost: | LARichards-Davies@carmarthenshire.gov.uk |