Prentisiaid Crefft Tai 2023
Manylion Swydd Wag
| Crynodeb | |
|---|---|
| Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
| Categori: | Gwasanaethau'r Prif Weithredwr |
| Dyddiad Cau: | 14/05/2023 |
| Dyddiad Postio: | 27/04/2023 |
| Cyfeirnod: | 07452 |
Disgrifiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Prentisiaid Crefft Tai 2023
Mae cyfraddau cyflog Blwyddyn 1 yn amrywio o £11,356 y
flwyddyn
Lleoliad: Gwasanaethau Tai, 37 awr yr wythnos
Cyfnod: 4 blynedd
Mae gennym ni leoliadau Prentisiaeth newydd gwych yng
Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a fydd yn dechrau ym mis Medi 2023. Un o’r Cynlluniau Prentisiaeth yw’r
Prentisiaid Crefft Tai. Mae hon yn
rhaglen pedair blynedd sy’n uno dysgu ac ennill cyflog. Byddwch chi nid yn unig
yn gweithio tuag at gymhwyster Crefft a gydnabyddir yn genedlaethol, ond hefyd
yn ennill cyflog, yn datblygu sgiliau newydd ac yn cael gwybodaeth a phrofiad
gwerthfawr. Cewch eich cyflwyno i’ch crefft ddewisol a’ch paru â gweithiwr
crefft profiadol er mwyn datblygu eich gwybodaeth dechnegol a’ch sgiliau
ymarferol. Rydym ni’n cynnig cynllun prentisiaeth ar gyfer y crefftau canlynol:
·
Prentisiaid Trydanol
·
Prentisiaid Plymio
·
Prentisiaid Saernïaeth
·
Prentisiaid Plastro
·
Prentisiaid Paentio
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau eich gyrfa gyda’n
Cyngor ni, darllenwch ein canllaw ar brentisiaethau sydd ar gael ar y dudalen
swyddi. Mae hon yn egluro’r sgiliau sydd
eu hangen, beth i’w gynnwys ar y ffurflen gais a rhagor o wybodaeth am y
lleoliadau hyn.
Gellir cyflwyno eich cais trwy gwblhau'r ffurflen ar-lein trwy'r ddolen yma Ffurflen Gais
Noder bod hi'n bosib cwblhau'r ffurflen heb gyfrif FyNghyfrif am fod yna opsiwn i barhau heb fewngofnodi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu broblemau cyflwyno eich cais, e-bostiwch hrservicecentre@wrexham.gov.uk
Rydym ni’n chwilio am unigolion sydd ag ymagwedd, gwerthoedd
ac ymddygiadau cywir tuag at waith ac sy’n dyheu am gael gweithio i ni i
wasanaethu dinasyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ewch i’n tudalen we i gael rhagor o wybodaeth:
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r
Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol ar 01978 292070
Mae ceisiadau yn cau am hanner nos ar 14 Mai 2023
Bydd y Ganolfan Asesu/Cyfweliadau yn cael eu cynnal ar ôl y
dyddiad cau.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael
eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
| Cysylltiadau | |
|---|---|
| Cyswllt 1 | |
| Enw'r cyswllt: | Gary Lancelott |
| Ffôn: | 01978 315331 |
| Cyfeiriad e-bost: | Gary.Lancelott@wrexham.gov.uk |