Gweithwyr Cefnogaeth Therapiwtig i Deuluoedd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 08/03/2020 |
Dyddiad Postio: | 14/02/2020 |
Cyfeirnod: | 04743 |
Disgrifiad
G07 £23,836 - £25,295
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn chwilio
am 4 Gweithiwr Cefnogaeth Therapiwtig i Deuluoedd i ymuno â’n tîm o staff
pwrpasol. Bydd deiliaid y swydd yn
gweithio yn un o’r ardaloedd canlynol: Gwynedd/Môn, Conwy/Sir Ddinbych a Wrecsam/Sir
y Fflint.
Mae’r rhain yn swyddi sydd wedi’u creu o’r newydd a bydd
gofyn i chi:
Feithrin a chynnal perthnasoedd gwaith positif ac
effeithiol gyda phlant sydd wedi'u mabwysiadu a'u teuluoedd
Gweithio mewn partneriaeth ag aelodau o Dîm GMGC a
gweithwyr proffesiynol eraill a chyfrannu at y gwaith o asesu, cynllunio ac
adolygu cefnogaeth i blant sydd wedi'u mabwysiadu a'u teuluoedd
Defnyddio ymyriadau sy'n addas i gam datblygiad y plentyn
Darparu pecynnau cefnogi therapiwtig unigol i blant sydd wedi’u
mabwysiadu a’u teuluoedd
Gweithio ar eich menter eich hun, yn unol â’r holl
asesiadau risg, a chynlluniau gofal i symud tuag at nodau therapiwtig plant
unigol
Hyrwyddo perthnasoedd cryf a phositif, rhianta diogel a
ffyrdd iach o fyw
Datblygu’ch sgiliau proffesiynol ar ffurf datblygiad
parhaus
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Jo Spender |
Ffôn: | 019787 295420 |
Cyfeiriad e-bost: | Jo.Spender@wrexham.gov.uk |