Gweithwyr Cymdeithasol Sesiynol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Achlysurol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 03/01/2022 |
Dyddiad Postio: | 14/12/2021 |
Cyfeirnod: | 04860 |
Disgrifiad
G09 - G10 £15.78 - £17.06 yr awr
Mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Gofal Cymdeithasol o ansawdd uchel er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i oedolion, plant a phobl ifanc. Rydym eisiau sicrhau parhad gwasanaethau i’r rhai mwyaf bregus yn y gymuned ac rydym yn gweithio'n galed i ddefnyddio adnoddau yn ystod amseroedd heriol.
Rydym yn edrych am weithwyr cymdeithasol brwdfrydig a llawn cymhelliant i helpu i gefnogi i ddarparu Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol o fewn Wrecsam ar sail sesiynol. Gallwn gynnig cymorth ymsefydlu cefnogol a mynediad i gefnogaeth rheoli i chi a thîm cyfeillgar a phrofiadol o gydweithwyr.
Mae gwaith sesiynol yn ddelfrydol i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso neu weithwyr cymdeithasol sy'n dymuno dychwelyd i Ofal Cymdeithasol yn ystod cyfnod pan fo COVID19 yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau.
Mae bob swydd yn destun gwiriad GDG a Chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru
Cynigir Gwaith Sesiynol ar sail ‘pan fydd angen’ felly ni allwn warantu eich oriau, hefyd nid oes rhaid i chi gymryd y gwaith a gynigir. Nid yw hwn yn gontract dim oriau ac nid ydych wedi eich atal rhag gweithio gydag unrhyw sefydliad arall.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb,
cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael
eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mike Bell |
Ffôn: | 01978 298438 |
Cyfeiriad e-bost: | mike.bell@wrexham.gov.uk |