Prif Swyddog Cyllid a TGCh (Swyddog Adran 151)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Cyllid a TGCh |
Dyddiad Cau: | 04/03/2021 |
Dyddiad Postio: | 08/02/2021 |
Cyfeirnod: | 05217 |
Disgrifiad
Cyflog £89,085 –
£99,565 (dan adolygiad, mae’n bosibl y
bydd modd ei ymestyn lle bo angen yn sgil amodau arbennig) bydd ein polisi
ail-leoli hefyd yn berthnasol i’r swydd hon.
Yn sgil ymddeoliad deiliad
presennol y swydd, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno a’n Uwch Dîm Rheoli, yn
adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr. Byddwch yn arwain ar y portffolio Cyllid a TGCh, ac yn
cyfrannu’n weithredol at ein nodau arweinyddiaeth casgliadol er mwyn darparu
gwelliannau hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam.
Mae gennym enw da am
reolaeth gyllidol gadarn a threfniadau llywodraethu uchel eu parch ac rydym yn
chwilio am rywun i fynd â ni ymhellach ar y siwrnai hon ac adeiladu ar y
llwyddiant. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn darparu blaenoriaethau Cynllun
y Cyngor ynghyd â chyfrifoldebau penodol dan y thema Trefniadaeth, “parhau i foderneiddio
ein gwasanaethau a chefnogi Cyngor cadarn.”
Fel prif ymgynghorydd y
Cyngor ar faterion ariannol, rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar sgiliau
arweinyddiaeth ardderchog a gweladwy, sgiliau proffesiynol a gwybodaeth i
ddatblygu perthnasoedd a phartneriaethau effeithiol gydag ystod o
fudd-ddeiliaid mewnol ac allanol.
Byddwch yn cynghori’r Prif
Weithredwr, a’n Haelodau Etholedig ar faterion allweddol, a strategaethau ariannol,
yn ogystal ag arwain ar rai o’n gwaith newid pwysicaf, a phrosiectau
partneriaeth eraill. Bydd
y disgwyliadau’n uchel o fewn ac y tu allan i’r Cyngor, ond bydd atebolrwydd ar
y cyd a chefnogaeth gryf yn cael eu darparu.
Mae’r portffolio’n cynnwys
nifer o wasanaethau pwysig y byddwch yn eu harwain, eu datblygu a’u gwella’n
barhaus er mwyn sicrhau darpariaeth gwasanaeth cefnogi effeithiol, gan sicrhau
safonau ariannol cryf a llywodraethu ehangach. Bydd arnoch chi angen dealltwriaeth o gyllid llywodraeth
leol a’r materion sy’n wynebu meysydd y portffolio.
Yn ogystal â gweithredu
fel ein prif swyddog cyllid, mae’r rôl yn cynnwys gweithredu fel swyddog
statudol ar gyfer Swyddog Adran 151, sy’n ymofyn cymhwyster cyfrifyddiaeth
perthnasol, cymhwyster Sefydliad
Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth neu gyfwerth.
Bydd gennych lwyddiant blaenorol o gyflawni canlyniadau strategol yn y meysydd
portffolio hyn a'r sgiliau i ddylanwadu ac arwain eraill. Bydd gennych y gallu i arwain ar newid diwylliannol, gan
annog sgyrsiau gonest trwy gydol y gwasanaeth a hyrwyddo diwylliant ‘Un
Cyngor’. Os oes gennych y gallu i ddarparu
cefnogaeth ariannol, fasnachol a strategol gref i Swyddogion ac Aelodau'r
Cyngor yn y rôl ganolog hon, byddem yn croesawu cais gennych chi.
I ddarganfod mwy am y
swydd hon, ymwelwch â https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru/
DYDDIAD CAU: hanner dydd,
dydd Iau 4 Mawrth 2021
Llunio rhestr fer: yr wythnos sy’n dechrau ar 8 Mawrth 2021.
Proses ddethol: yr wythnos sy’n dechrau ar 22 Mawrth 2021.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Ian Bancroft |
Ffôn: | 01978 292101 |
Cyfeiriad e-bost: | ian.bancroft@wrexham.gov.uk |