Gweithwyr Cefnogi - Gwasanaeth Byw yn y Gymuned
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 02/01/2023 |
Dyddiad Postio: | 17/12/2022 |
Cyfeirnod: | 05529 |
Disgrifiad
Gwasanaeth Byw yn y Gymuned
G05 - £21,968 – £22,777 (pro-rata)
Mae
cyfle cyffrous ar gael yn y Gwasanaeth Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl sydd
eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn ein cymuned. Rydym yn helpu unigolion sydd ag anghenion cymhleth mwy dwys gan gynnwys
anableddau dysgu i gynnal eu tenantiaethau a byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu
hunain. Rydym yn helpu pobl i deimlo’n rhan o’u cymunedau; gwneud yn fawr o’u
lles a chyflawni eu hamcanion personol.
Rydym yn chwilio am
ymgeiswyr deinamig, sy’n gallu cymell eu hunain a sydd ag empathi a pharch. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gwerthfawrogi’r gwahaniaethau mewn eraill
ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn yn ganolog. Bydd yn gweithio’n dda fel aelod o dîm ac ar ei liwt eu hunain; ac yn
gallu dilyn cynlluniau a chael gwared ar rwystrau i sicrhau fod y canlyniadau
wedi eu cyflawni. Bydd pob ymgeisydd yn hyblyg o ran eu dull gwaith ac wedi ymrwymo i wneud
gwahaniaeth cadarnhaol.
I gefnogi unrhyw ymgeiswyr sydd â diddordeb, rydym yn cynnig sesiynau cwrdd a chyfarch i gefnogi arwain a chynghori ar y swydd y gwneir cais amdani ac os oes angen unrhyw gymorth i gwblhau'r cais.
Bydd cyfarfod a chyfarch ar 20 Rhagfyr 1-5pm.
Cysylltwch â Jane Bruce, Rheolwr Cynorthwyol, ar (01978) 298553; 07776516652 os hoffech chi wneud cais (neu am sgwrs anffurfiol am y swyddi).
Mae
angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb,
cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Jane Bruce |
Ffôn: | 01978 298553 |
Cyfeiriad e-bost: | Jane.Bruce@wrexham.gov.uk |