Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Asesu ac Ymyrraeth

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 31/10/2021
Dyddiad Postio: 13/10/2021
Cyfeirnod: 05576

Disgrifiad

G09 - £30,451 - £32,910 y flwyddyn

Bydd gan yr ymgeisydd rywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a diogelu, fodd bynnag, darperir hyfforddiant a mentora. Bydd ymgeiswyr sydd heb y profiad penodol hwn ond sydd yn awyddus i ddatblygu yn y maes hwn o waith cymdeithasol hefyd yn cael eu hystyried.

Bydd gan yr ymgeisydd agwedd canolbwyntio ar atebion gan sicrhau fod y plentyn yn ganolbwynt i unrhyw ymyrraeth a ymgymerir ganddynt. Mae sgiliau a nodweddion sydd eu hangen yn cynnwys sgiliau cyfathrebu effeithiol, agwedd empathetig, bod yn agored a gonest, dibynadwy ac wedi ymrwymo a chymhellol i ddarparu safon uchel o wasanaeth i’r plant a theuluoedd sydd angen gofal a chefnogaeth. Bydd yr ymgeisydd yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn yr un modd yn gallu gweithio’n dda yn annibynnol.

Mae yna gyfleoedd ar gyfer dilyniant gyda’r tîm ac ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael i gefnogi camu ymlaen yn eich gyrfa. Mae Wrecsam yn gwneud cynnydd cadarnhaol ar eu taith tuag at welliant ac mae cefnogi a datblygu staff yn allweddol ar gyfer llwyddiant hyn.  

 Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon. Gweler yr hysbyseb llawn sydd ynghlwm am wybodaeth.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg. 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Sarah Grant
Ffôn: 07990647808
Cyfeiriad e-bost: Sarah1.Grant@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr