Gweithiwr Plant a Theuluoedd Dechrau’n Deg
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 24/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 13/10/2021 |
Cyfeirnod: | 05599 |
Disgrifiad
GO5 £19,698 - £20,493
25 awr yr wythnos (yn gweithio 42 wythnos y flwyddyn)
Dros dro am 12 mis gyda’r posibilrwydd o estyniad
Mae Dechrau’n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth i blant o dan 4 oed a'u teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd penodol yn Wrecsam ac sydd fwyaf angen cymorth.
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Gweithiwr Plant a Theuluoedd sydd â phrofiad yn y blynyddoedd cynnar i weithio yn narpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg Canolfan Deulu Tŷ Ni ond gall weithio yn y ddau leoliad pan fo angen. Bydd y swydd yn golygu gweithio gyda phlant gydag anghenion ychwanegol sydd angen cymorth fel y gallant gael mynediad at y ddarpariaeth grŵp. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfeillgar a brwdfrydig sy'n ymroddedig ac yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd ysgogol ar gyfer plant dwy i dair oed.
Bydd gennych chi gymhwyster QCF Lefel 3 neu gymhwyster perthnasol arall.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Julie Williams |
Ffôn: | 01978 295672 |
Cyfeiriad e-bost: | julie.williams@wrexham.gov.uk |