Therapydd Galwedigaethol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 31/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 13/10/2021 |
Cyfeirnod: | 05675 |
Disgrifiad
Parhaol - Rhan Amser - 18.5 awr
G08 – G09 £27,041 – £32,910 y flwyddyn (pro rata)
Mae ein Tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio gydag achosion sy’n amrywio o ail-alluogi pobl hŷn, i bobl ifanc ag anableddau. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth ac mae gennym strwythur staffio sy’n cefnogi gweithwyr gyda’u datblygiad proffesiynol parhaus ac i ddringo’r ysgol yrfa.
Ar hyn o bryd, mae gennym nifer o swyddi gwag yn sgil ymddeoliad rhai o’n cydweithwyr yn y tîm.
Os ydych chi’n berson llawn cymhelliant a brwdfrydedd dros wella gwasanaethau’n barhaus i bobl hŷn, oedolion diamddiffyn, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, yna gallwn gynnig goruchwyliaeth a chefnogaeth reolaidd i chi, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a hyfforddiant i’ch galluogi chi i ddarparu gwasanaeth o safon uchel.
Rhoddir cefnogaeth i’r rheiny sydd â llai o brofiad i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwyseddau.
Mae gradd neu ddiploma mewn Therapi Galwedigaethol a chofrestriad HCPC cyfredol yn hanfodol ar gyfer y swydd Therapydd Galwedigaethol, ac fe benodir yn amodol ar wiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | CRESSIDA TRAVIS |
Ffôn: | 01978 298003 |
Cyfeiriad e-bost: | cressida.travis@wrexham.gov.uk |
Cyswllt 2 | |
Enw'r cyswllt: | Joanna Fitton |
Ffôn: | 01978 298008 |
Cyfeiriad e-bost: | joanna.fitton@wrexham.gov.uk |