Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol Tîm Asesu ac Ymyrraeth

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 12/12/2021
Dyddiad Postio: 16/11/2021
Cyfeirnod: 05679

Disgrifiad

G09 - £30,451 - £32,910 yn flynyddol

Mae’r Tîm Asesu ac Ymyrraeth yn chwilio am weithiwr cymdeithasol i ymuno â’r Tîm Asesu ac Ymyrraeth gan fod swydd graidd wedi cael ei chytuno fel rhan o’n Cynllun Gwella i weithio gyda phlant yn eu harddegau sydd ar fin mynd mewn i ofal neu ar fin bod yn ddigartref. Pwrpas y swydd yma yw sicrhau bod partneriaid yn parhau i weithio gyda’u gilydd yn effeithiol i ddarparu ymateb gyson a chydlynol i bobl ifanc sydd yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref ac sydd angen llety. Bydd rhaid i ymgeiswyr weithio o fewn protocol Deddf Plant 1989 sydd yn gosod dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i ‘blant mewn angen’ yn eu hardal. Mae’r swydd hefyd yn golygu gweithio o dan Ddeddf Tai 1996, Rhan V11 sydd yn nodi cyfrifoldebau, ac o dan y cyfrifoldebau hyn mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu llety dros dro neu barhaol. Mae Deddf Iechyd a Lles Cymru 2014 hefyd yn sylfaenol i’r swydd hon, a sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cynnig i bobl ifanc diamddiffyn o’r fath.

Cyflwynwyd y protocol hwn er mwyn ymateb i ddyfarniad Tŷ'r Arglwyddi ym mis Mai 2009 yn achos G v LB Southwark.

Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol llawn cymhelliant gyda gwybodaeth a phrofiad ym maes gwaith cymdeithasol. Fe fyddwch chi’n aelod allweddol o Dîm Asesu ac Ymyrraeth Wrecsam, gan gyflwyno asesiadau gwaith cymdeithasol o ansawdd a sicrhau gwell cydweithredu a chyfathrebu rhwng gwasanaethau. Nod y swydd yw gwella sut mae pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio ac yn cael gafael ar wasanaethau llety/cefnogaeth digartrefedd a hyrwyddo gwell cysondeb o ran mynediad at wasanaethau a phenderfyniadau. Mae disgwyl i’r gweithiwr cymdeithasol weithio’n agos gyda’r person ifanc a’u galluogi nhw i wneud penderfyniadau gwybodus trwy’r roi’r wybodaeth iddynt am eu hawliau a defnyddio adnoddau’n effeithlon er mwyn cynorthwyo’r person ifanc orau.

Bydd gan yr ymgeisydd rywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a diogelu, fodd bynnag, darperir hyfforddiant a mentora. Bydd ymgeiswyr heb brofiad hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad a chyflogaeth.

Bydd yr ymgeisydd yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac yn yr un modd yn gallu gweithio’n dda yn annibynnol. Mae yna gyfleoedd ar gyfer dilyniant gyda’r tîm ac ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael i gefnogi camu ymlaen yn eich gyrfa. Mae Wrecsam yn gwneud cynnydd cadarnhaol ar eu taith tuag at welliant ac mae cefnogi a datblygu staff yn allweddol ar gyfer llwyddiant hyn.  Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.  

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. 

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.


Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Sharon Britton
Ffôn: 01978 292500
Cyfeiriad e-bost: sharon.britton@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr