Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Swyddog ar Ddyletswydd - Adran Therapi Galwedigaethol

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Rhan Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 31/10/2021
Dyddiad Postio: 13/10/2021
Cyfeirnod: 05681

Disgrifiad

Parhaol - Rhan Amser - 18.5 awr

G05 £19,698 - £20,493 y flwyddyn (pro rata)

Mae ein Tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio gydag achosion sy’n amrywioo ail-alluogi pobl hŷn, i bobl ifanc ag anableddau. Rydym yn parhau i fuddsoddiynein gwasanaeth ac mae gennym strwythur staffio sy’n cefnogi gweithwyr gyda’udatblygiad proffesiynol parhaus ac i ddringo’r ysgolyrfa.

 Ar hyn o bryd, mae gennym nifer o swyddi gwag yn sgil ymddeoliad rhai o’n cydweithwyr yn y tîm.

 Os ydych chi’n berson llawn cymhelliant a brwdfrydedd dros wella gwasanaethau’n barhaus i bobl hŷn, oedolion diamddiffyn, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, yna gallwn gynnig goruchwyliaeth a chefnogaeth reolaidd i chi, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a hyfforddiant i’ch galluogi chi i ddarparu gwasanaeth o safon uchel.

Rhoddir cefnogaeth i’r rheiny sydd â llai o brofiad i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwyseddau.

 Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. 

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.


 

 

 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Cressida Travis
Ffôn: 01978 298003
Cyfeiriad e-bost: cressida.travis@wrexham.gov.uk
Cyswllt 2
Enw'r cyswllt: Joanna Fitton
Ffôn: 01978 298008
Cyfeiriad e-bost: joanna.fitton@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr