Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Anabledd Pob Oedran
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 09/04/2023 |
Dyddiad Postio: | 29/03/2023 |
Cyfeirnod: | 05712 |
Disgrifiad
Tîm Anabledd Pob Oedran – Gweithiwyr Cymdeithasol
Cofrestredig
Swyddi Parhaol – 37 a 30 awr yr wythnos ar gael
Ystyrir trefniadau gweithio rhan-amser a rhannu
swydd i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
G09 £32,909 – £35,411
G10 £36,298 – £39,493
(yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Mae gan y Tîm Anabledd Pob Oedran gyfle cyffrous i weithwyr cymdeithasol ymuno â thîm arloesol a blaengar.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at ddull aml-asiantaeth y tîm i ddarparu gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles di-dor ar gyfer pobl anabl o bob oed a'u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), Deddf Plant 1989 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar bob cam o’u bywydau.
Byddwch yn gweithio gydag unigolion er mwyn eu galluogi i ganfod eu canlyniadau personol eu hunain. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn a'i rwydweithiau cefnogi, gan gynnwys teuluoedd, i hyrwyddo annibyniaeth, sicrhau bod gan yr unigolyn lais cryfach wrth wneud penderfyniadau a mwy o reolaeth yn eu bywydau.
Hoffai’r tîm ddenu gweithwyr cymdeithasol brwdfrydig ar unrhyw lefel o brofiad i weithio ym maes plant, oedolion neu’r ddau. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad o weithio mewn tîm, profiad o weithio gyda phlant a/neu oedolion diamddiffyn a'r gallu i ymateb yn briodol i anghenion plant ac oedolion anabl gan gadw at ganllawiau, polisïau a safonau statudol. Mae’r Tîm Anableddau Pob Oed yn darparu cyfle i weithio mewn maes o arbenigedd penodol gyda’r posibilrwydd o ddatblygu sgiliau a phrofiad ymhellach i weithio ar draws holl agweddau’r tîm.
Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig:
-
Goruchwyliaeth a chefnogaeth ardderchog gan reolwyr
-
Cefnogaeth wych gan gyfoedion
-
Cyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus
- Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio’n hyblyg a rhannu swydd
I gael sgwrs am y swyddi
cysylltwch â Carys West, Rheolwr Tîm, ar 01978 298551 neu carys.west@wrexham.gov.uk.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i
ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n
dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a
gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn
y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Carys West |
Ffôn: | 01978 298511 |
Cyfeiriad e-bost: | carys.west@wrexham.gov.uk |