Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 12/12/2021 |
Dyddiad Postio: | 29/11/2021 |
Cyfeirnod: | 05737 |
Disgrifiad
G08 / G09 £27,041 - £32,910
Swydd Dros Dro o 12 mis - Absenoldeb Mamolaeth
Mae’r
Gwasanaeth Mabwysiadu yn wasanaeth arloesol a llwyddiannus iawn sy’n darparu
gwasanaethau o ansawdd uchel i blant y mae arnynt angen lleoliadau mabwysiadu.
Rydym yn
awyddus i dderbyn ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cofrestredig sydd â
phrofiad o weithio yn y maes mabwysiadu. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am
oruchwylio trefniadau cymorth mabwysiadu, gan gynnwys; cysylltu gydag
awdurdodau lleol ac asiantaethau cymorth mabwysiadu eraill i sicrhau
darpariaeth briodol o wasanaethau cymorth ac i sicrhau parhad gwasanaethau i
deuluoedd sy’n symud ardal; gwybodaeth a chyngor i deuluoedd sy’n mabwysiadu;
cynnig cyngor a chymorth arbenigol i weithwyr gofal plant cymdeithasol gan
ddatblygu cynlluniau cymorth ôl mabwysiadu, a sicrhau fod y cynlluniau yn
bodloni safonau ansawdd.
Bydd deiliad y
swydd yn gyfrifol am ddarparu gwaith cymdeithasol ôl mabwysiadu o ansawdd uchel
yn unol â statud, rheoliadau a chanllawiau.24
Mae cymhwyster
gwaith cymdeithasol a phrofiad o weithio yn y maes mabwysiadu yn hanfodol ar
gyfer y swydd hon, yn ogystal â’r gallu i weithio ar draws Rhanbarth Gogledd
Cymru yn unol â galw’r gwasanaeth.
I gael unrhyw
fanylion pellach ac i drafod y swydd yn anffurfiol, cysylltwch â:
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb,
cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Stevie Thomas |
Ffôn: | 07585448408 |
Cyfeiriad e-bost: | Stevieleethomas@gwynedd.llyw.cymru |
Cyswllt 2 | |
Enw'r cyswllt: | Sue Colman |
Ffôn: | 07920766096 |
Cyfeiriad e-bost: | Sue.Colman@wrexham.gov.uk |