Swyddog Seremoni Achlysurol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Achlysurol |
Categori: | Llywodraethu a Chwsmeriad |
Dyddiad Cau: | 10/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 24/09/2021 |
Cyfeirnod: | 05796 |
Disgrifiad
G05 £19,698 - £20,493 pro rata
Mae Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam yn y broses o ehangu ei tȋm ac yn chwilio am Swyddog Seremoni Achlysurol i arwain seremoniau priodasol a phartneriaethau sifil.
Bydd yr ymgesiydd/wyr llwyddiannus yn gyfrifol am gofrestru ac arwain seremoniau mewn lleoliadau trwyddedig ar draws y bwrdeistref sirol. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i sicrhau fod yr ymgeisydd/wyr llwyddiannus gyda’r sgiliau a’r hyder anghenrheidiol er mwyn arwain a gweinyddu mewn seremoniau ynghyd a’r gallu i ddarparu gofal cwsmeriaeth o’r safon orau.
Disgwilir
i’r ymgeisydd/wyr llwyddiannus weitho, yn bennaf, ar benwythnosau a gwyliau’r
banc ac hefyd seremoniau yn ystod yr wythnos waith fel fo’r galw, yn enwedig felly
yn ystod y misoedd prysur. Mae gofyn i’r ymgeisydd/wyr fod yn hyblyg gyda’r
gallu i weithio ar fyr rybydd.
Os hoffech
sgwrs anffurfiol ynglyn â’r swydd,
cysylltwch gyda Susan Lloyd (01978 292670) os gwelwch yn dda.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas
heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Susan Lloyd |
Ffôn: | 01978 292670 |
Cyfeiriad e-bost: | susan.lloyd@wrexham.gov.uk |