Asesydd Gofal Cymdeithasol x 2 (Tîm Un Pwynt Mynediad)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 09/04/2023 |
Dyddiad Postio: | 24/03/2023 |
Cyfeirnod: | 07369 |
Disgrifiad
G07 £26,845 -
£28,371 y flwyddyn
37 awr yr
wythnos - ystyrir y cyfle i rannu swydd
Lleolir y
swydd(i) o fewn y Tîm Un Pwynt Mynediad, Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion,
sy’n cynnwys Ymgynghorwyr Cyswllt Cyntaf, Aseswyr Gofal Cymdeithasol, Gweithwyr
Cymdeithasol, Therapydd Galwedigaethol a mynediad i Asiantaethau Trydydd Sector ac wedi’i lleoli yn Adeiladau'r Goron, Stryt
Caer, Wrecsam.
Mae ein Tîm Un
Pwynt Mynediad yn darparu’r pwynt cyswllt cyntaf y mae’r rhan fwyaf o bobl yn
ei gael gyda Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac mae’r tîm ymroddedig o
weithwyr proffesiynol amrywiol yn darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion
Wrecsam. Mae galwad i’r Tîm Un Pwynt Mynediad, naill ai gan breswylwyr neu
weithwyr proffesiynol, yn golygu y byddant yn cael gwybodaeth, cyngor a
chymorth o safon. Rydym yn chwilio am aseswyr gofal cymdeithasol llawn
cymhelliant i chwarae rhan allweddol yn ein tîm cefnogol a chyfeillgar.
Byddwch yn
gweithio mewn partneriaeth â phobl i nodi eu hanghenion, darparu gwybodaeth,
cyngor a chymorth a’u cefnogi i gynllunio’n greadigol er mwyn cynyddu eu
hannibyniaeth a lleihau eu dibyniaeth ar ddarpariaeth gwasanaeth hirdymor. Bydd hyn yn cynnwys edrych am ddatrysiadau
yng nghymuned yr unigolyn, y trydydd sector, timau arbenigol o fewn yr adran ac
ein hasiantaethau partner allweddol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer
yr unigolyn / y teulu / gofalwyr.
Byddwch yn cael
eich cefnogi gan dîm rheoli profiadol ac ystod o weithwyr proffesiynol eraill a
bydd gennych hefyd fynediad i gyfleoedd hyfforddiant a datblygu arbenigol gyda
chyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog ar gyfer yr ymgeiswyr delfrydol.
Mae Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), Deddf Galluedd Meddyliol
2005 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu
fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau fod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau
statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
ar bob cam o’u bywydau.
Bydd gan yr
ymgeisydd llwyddiannus Lefel 3 neu gyfwerth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac
ymrwymiad i gymwysterau lefel 4 neu gyfwerth o fewn yr amseroedd gofynnol.
Mae’r Adran wedi cyflwyno rhaglen ‘Grow Your Own’ yn ddiweddar, sy’n rhoi cyfle
i weithwyr weithio tuag at ennill cymhwyster Gwaith Cymdeithasol neu Therapydd
Galwedigaethol.
I gael rhagor o
wybodaeth, cysylltwch â: Joanna.tatham@wrexham.gov.uk
Mae angen
gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol
Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd,
rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor
wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Joanna Tatham |
Ffôn: | 01978 298134 |
Cyfeiriad e-bost: | Joanna.Tatham@wrexham.gov.uk |
Cyswllt 2 | |
Enw'r cyswllt: | Lyn Jones |
Ffôn: | 01978 298254 |
Cyfeiriad e-bost: | Lyn.Jones@wrexham.gov.uk |