Prentisiaid Corfforaethol 2023
Manylion Swydd Wag
| Crynodeb | |
|---|---|
| Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
| Categori: | Gwasanaethau'r Prif Weithredwr |
| Dyddiad Cau: | 14/05/2023 |
| Dyddiad Postio: | 27/04/2023 |
| Cyfeirnod: | 07453 |
Disgrifiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Prentisiaid Corfforaethol 2023
Cyfraddau cyflog Blwyddyn 1: £5.28 yr awr,
£10,186 y flwyddyn
Lleoliad: Amrywiol, 37 awr yr wythnos
Cyfnod: 2 flynedd
Mae gennym ni leoliadau Prentisiaeth newydd gwych yng
Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn amrywiaeth o feysydd gwasanaeth. Byddai’r cyfleoedd hyn yn lle gwych i
ddechrau eich gyrfa a gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Yn y
gwaith, byddwch chi’n cael cefnogaeth lawn gydag amrywiaeth o gyfleoedd ac yn manteisio
ar brofiad gwaith amrywiol a gwerthfawr. Os hoffech chi ddechrau eich gyrfa
gyda’n Cyngor ni a chael datblygiad wedi’i deilwra’n bersonol a fydd yn eich
cynorthwyo chi yn y dyfodol i gael cyfleoedd gwaith gyda ni yma yn Wrecsam,
darllenwch y ganllaw a gwnewch gais yn awr i ddechrau ym mis Medi!
Rydym ni’n chwilio am unigolion sydd ag ymagwedd, gwerthoedd
ac ymddygiadau cywir tuag at waith ac sy’n dyheu am gael gweithio i ni i
wasanaethu dinasyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae nifer o leoliadau mewn gwasanaethau ar gael ar hyn o
bryd yn:
- Y Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar ac Addysg
- Cyllid a TGCh
- Llywodraethu a Chwsmeriaid (Cyfreithiol, Gwasanaethau Cwsmeriaid)
- Tai
- Gofal Cymdeithasol
- AD a DS, Perfformiad a Gwelliant
- Economi a Chynllunio
Darllenwch ein canllaw ar brentisiaethau sydd ar gael ar y
dudalen swyddi. Mae hon yn egluro’r sgiliau sydd eu hangen, beth i’w gynnwys ar
y ffurflen gais a rhagor o wybodaeth am y lleoliadau hyn.
Gellir cyflwyno eich cais trwy gwblhau'r ffurflen ar-lein trwy'r ddolen yma Ffurflen Gais
Noder bod hi'n bosib cwblhau'r ffurflen heb gyfrif FyNghyfrif am fod yna opsiwn i barhau heb fewngofnodi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu broblemau cyflwyno eich cais, e-bostiwch hrservicecentre@wrexham.gov.uk
Ewch i’n tudalen we i gael rhagor o wybodaeth: Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r
Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol ar 01978 292070
Mae ceisiadau yn cau am hanner nos ar 14 Mai 2023
Bydd y Ganolfan Asesu/Cyfweliadau yn cael eu cynnal ar ôl y
dyddiad cau.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael
eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
| Cysylltiadau | |
|---|---|
| Cyswllt 1 | |
| Enw'r cyswllt: | Adam Morris |
| Ffôn: | 07799 250408 |
| Cyfeiriad e-bost: | Adam.Morris@wrexham.gov.uk |
| Cyswllt 2 | |
| Enw'r cyswllt: | Ellen Angus |
| Ffôn: | 07830 385595 |
| Cyfeiriad e-bost: | Ellen.Angus@wrexham.gov.uk |