Gwaith Amgylcheddol dan Hyfforddiant 2023
Manylion Swydd Wag
| Crynodeb | |
|---|---|
| Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
| Categori: | Gwasanaethau'r Prif Weithredwr |
| Dyddiad Cau: | 14/05/2023 |
| Dyddiad Postio: | 27/04/2023 |
| Cyfeirnod: | 07454 |
Disgrifiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gwaith Amgylcheddol
dan Hyfforddiant 2023
Mae cyflog y Cynllun Gwaith Amgylcheddol dan Hyfforddiant yn
dechrau ar £20,258 y flwyddyn
Lleoliad: Gwasanaethau Amgylchedd a Thechnegol, 37 awr yr
wythnos
Cyfnod: 2 flynedd
Mae gennym ni leoliadau Prentisiaeth newydd gwych yng
Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a fydd yn dechrau ym mis Medi 2023. Un o’r Cynlluniau Prentisiaeth yw’r gwaith
Amgylcheddol dan Hyfforddiant. Mae hon yn rhaglen dros ddwy flynedd a fydd yn
cynnig cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr a bydd yn eich helpu chi i ddatblygu
eich sgiliau a’ch gwybodaeth a’r bwriad yw cael gwaith parhaol yng Nghyngor
Wrecsam yn y pen draw. Mae’r Gwaith dan
Hyfforddiant yn gynllun 2 flynedd sy’n cyfuno gwaith mewn swyddfa a gwaith ar
safleoedd, gan roi sgiliau a phrofiad i’r unigolion yn ogystal â magu eu hyder.
Bydd gennych chi fentor dynodedig i'ch arwain chi drwy 8
gwahanol leoliad, tri mis o hyd ledled y Gwasanaeth Amgylchedd a Thechnegol a
all gynnwys:
- Gwastraff
ac ailgylchu
- Cynnal a
Chadw Priffyrdd
- Cefnogaeth
i Fusnesau
- Rheoli
Prosiectau
- Strategaeth
Gwastraff
- Contractau
a Pheirianneg
- Cludiant
- Gorfodi
- Tîm
Lleihau Carbon
- Rheoli
Fflyd
- Amlosgfa
a Mynwentydd
- Gwaith
Stryd
- Tîm
Mannau Agored
- Goleuadau
Stryd
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau eich gyrfa gyda’n
Cyngor ni, darllenwch ein canllaw ar brentisiaethau sydd ar gael ar y dudalen
swyddi. Mae hon yn egluro’r sgiliau sydd
eu hangen, beth i’w gynnwys ar y ffurflen gais a rhagor o wybodaeth am y lleoliadau
hyn.
Gellir cyflwyno eich cais trwy gwblhau'r ffurflen ar-lein trwy'r ddolen yma Ffurflen Gais
Noder bod hi'n bosib cwblhau'r ffurflen heb gyfrif FyNghyfrif am fod yna opsiwn i barhau heb fewngofnodi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu broblemau cyflwyno eich cais, e-bostiwch hrservicecentre@wrexham.gov.uk
Rydym ni’n chwilio am unigolion sydd ag ymagwedd, gwerthoedd
ac ymddygiadau cywir tuag at waith ac sy’n dyheu am gael gweithio i ni i
wasanaethu dinasyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ewch i’n tudalen we i gael rhagor o wybodaeth: Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r
Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol ar 01978 292070
Mae ceisiadau yn cau am hanner nos ar 14 Mai 2023.
Bydd y Ganolfan Asesu/Cyfweliadau yn cael eu cynnal ar ôl y
dyddiad cau.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â
chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol
nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael
eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
| Cysylltiadau | |
|---|---|
| Cyswllt 1 | |
| Enw'r cyswllt: | Huw Ap Dewi |
| Ffôn: | 01978 729642 |
| Cyfeiriad e-bost: | Huw.Dewi@wrexham.gov.uk |