Diolch am eich diddordeb mewn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd yn treialu model Hybrid (ar ôl-Covid) o weithio ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi swyddfa, sy'n golygu y cewch gyfle i gyfuno gweithio o fewn amgylchedd swyddfa ochr yn ochr â gweithio gartref.
Er mwyn gwneud cais ar lein, bydd rhaid i chi gofrestru a mewngofnodi i’ch cyfrif. Nodwch, os gwelwch yn dda, yr anfonnir pob gohebiaeth i’ch cyfrif e-bost. Mae'n bwysig i chi ddarllen y cyfarwyddyd sy’n seiliedig ar gwblhau’r ffurflen gais wedi i chi bwyso’r botwm ‘Sut i wneud Cais’. Am resymau diogelwch, bydd eich cais yn darfod ar ôl 30 munud o ddisymudrwydd, felly er mwyn osgoi colli gwybodaeth, sicrhewch eich bod yn arbed eich cais yn gyson.
Ni ystyrir ceisiadau hwyr beth bynnag yw’r rheswm.
Cofrestrwch i dderbyn ein cyfleoedd gwaith diweddaraf drwy glicio ar y tab 'Bwletin Swyddi' uchod.
Fe welwch 50 o’r swyddi gwag diweddaraf isod. Bydd angen ichi ddefnyddio’r botwm Chwilio isod er mwyn gweld rhagor o swyddi.
Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.