Hebryngwr Cludiant Ysgol - Wrth Gefn
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Achlysurol |
Categori: | Amgylchedd a Thechnegol |
Dyddiad Cau: | |
Dyddiad Postio: | 22/01/2025 |
Cyfeirnod: | 04598 |
Disgrifiad
G02 £23,656 pro rata (£12.26 yr awr)
Wrth Gefn
Amser Tymor Ysgol yn Unig
Oriau a lleoliadau amrywiol - mae gennym nifer o blant sydd angen eu hebrwng o’u cartref i’r ysgol ar ystod o siwrneiau. Byddwn yn ystyried ble rydych chi’n byw, eich ymrwymiadau, ac yn eich paru gyda’r plentyn mwyaf priodol i chi. Bydd hyd y siwrneiau yn amrywio yn amodol ar leoliadau.
Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio a gofalu am ddisgyblion sy’n defnyddio cludiant ysgol am ddim a ddarperir gan Fwrdeistref Sirol Wrecsam dan y meini prawf a nodwyd gan yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl).
Mae'r swyddi’n amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rôl ddymunol Cymraeg - dim ond y Gymraeg yn hanfodol wrth hebrwng plentyn i ysgol Gymraeg
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sian Roden |
Ffôn: | 01978 298996 |
Cyfeiriad e-bost: | Sian.Roden@wrexham.gov.uk |