Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd - Prosiect 'Kickstart'

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 17/04/2022
Dyddiad Postio: 31/03/2022
Cyfeirnod: 06211

Disgrifiad

Cyfle i cwrdd a cyfarch y tîm a gael taith o amgylch yr adran yn Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG o 4PM – 7PM  ar Dydd lau, 7 Ebrill,  ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/308685706257 


G07 £24,920 - £26,446 y flwyddyn

Yn sgil buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaeth Plant Sy'n Derbyn Gofal yn Wrecsam, mae cyfle wedi codi i ymuno â’n tîm brwdfrydig o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cefnogi teuluoedd sy’n darparu’r gwasanaeth i’n plant sy’n derbyn gofal ar ôl i’r cynllun sefydlogrwydd gael ei gymeradwyo yn y llys. 

Mae arnom ni eisiau i Wrecsam fod yn rhywle y gall plant gael cyfle i ddatblygu perthnasoedd gydag un neu fwy o oedolion sy’n eu cefnogi neu’n gofalu amdanynt drwy gydol eu plentyndod a thu hwnt gan gynnwys wrth iddynt ddatblygu’n oedolion. 

Mae arnom ni eisiau i’n plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal deimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu caru a derbyn yr addysg orau bosibl i’w paratoi ar gyfer bod yn oedolion. 

Byddwch yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu perthnasoedd effeithiol gyda’n plant sy’n derbyn gofal a’u gofalwyr a’u teuluoedd biolegol i sicrhau cynlluniau gofal effeithiol sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn a’r unigolyn ifanc. 

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg. 




 


Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Leah Feeley-Jones
Ffôn: 01978 295613
Cyfeiriad e-bost: leah.feeley-jones@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr