Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Ymgynghorydd Personol

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 10/04/2022
Dyddiad Postio: 31/03/2022
Cyfeirnod: 06213

Disgrifiad

Cyfle i cwrdd a cyfarch y tîm a gael taith o amgylch yr adran yn Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG o 4PM – 7PM  ar Dydd lau, 7 Ebrill,  ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/308685706257


G07 £24,920 - £26,446 y flwyddyn

Mae Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Wrecsam yn edrych i benodi Ymgynghorydd Personol brwdfrydig a llawn cymhelliant  i weithio yn y Tîm Gadael Gofal ar Secondiad/Dros dro am 6 mis. Bydd eich rôl yn cefnogi a helpu pobl ifanc sy’n derbyn gofal neu’n gadael gofal i allu pontio’n llwyddiannus i fyd oedolion annibynnol drwy sicrhau fod y broses Cynllunio Llwybr yn cael ei ddefnyddio a’i weithredu’n llawn.  Bydd angen i chi eirioli ar eu rhan i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu cwrdd yn llawn; i gyfeirio at asiantaethau eraill ac i ddatblygu perthnasau gwaith effeithiol ag agos gydag asiantaethau allweddol i hwyluso ymateb aml asiantaeth wedi’i gydlynu i anghenion yr unigolion sy’n gadael gofal a’u cynnwys nhw, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn y gwaith o gyflawni’r cynlluniau. 

Yn ddelfrydol dylai fod profiad gan ddeilydd y swydd o weithio gyda phobl ifanc cythryblus ac/neu o dan anfantais mewn amgylchedd perthnasol, profiad o reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu galw cystadleuol a gwybodaeth o’r achosion sydd yn effeithio pobl ifanc ‘sy’n Derbyn Gofal’ neu yn Gadael Gofal.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg. 

 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Victoria Crewe
Ffôn: 01978 295412
Cyfeiriad e-bost: vicky.crewe@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr