Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Plant sy’n derbyn gofal

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 17/04/2022
Dyddiad Postio: 31/03/2022
Cyfeirnod: 06237

Disgrifiad

Cyfle i cwrdd a cyfarch y tîm a gael taith o amgylch yr adran yn Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG o 4PM – 7PM  ar Dydd lau, 7 Ebrill,  ewch i https://www.eventbrite.co.uk/e/308685706257 

Polisi Adleoli’n berthnasol 

G09/10 £30,984 - £37,568 per annum

Rydym yn chwilio am ymarferwyr egnïol sy’n deall anghenion plant sy'n derbyn gofal. Mae arnom eisiau ymarferwyr sy’n gallu adeiladu perthnasoedd gyda phlant, gofalwyr a theuluoedd biolegol. Mae arnom eisiau ymarferwyr sy’n deall fod ar blant sy’n derbyn gofal angen deall eu hanes a’u taith i ofal. Mae arnom eisiau ymarferwyr sy’n eiriolwyr dros blant a’u teuluoedd, ac a fydd yn asesu’n barhaus yr angen i’r plentyn dderbyn gofal.

Yn gyfnewid, cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi’n dda, a bydd gennych lwyth achosion hawdd ei drin. Byddwch yn rhan o wasanaeth arloesol sy'n annog creadigrwydd a datblygiad ymarferwyr. Byddwch yn gallu gweithio mewn ffordd gyflym a chewch gefnogaeth i ddatblygu’ch arferion.

Oes oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â Gill Foulkes, Rheolwr Tîm - Tîm Plant Sy’n Derbyn Gofal

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Gill Foulkes
Ffôn: 01978 295350
Cyfeiriad e-bost: gill.foulkes@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr