Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Gadael Gofal
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 08/09/2024 |
Dyddiad Postio: | 14/08/2024 |
Cyfeirnod: | 06238 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol
Parhaol
Lleoliad – Gofal Cymdeithasol Plant, Stryt y Lampint, Wrecsam.
37 awr yr wythnos.
G09 – G10
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am benodi gweithiwr cymdeithasol
llawn amser, llawn cymhelliant i ymuno â'r Tîm Gadael Gofal. Mae hon yn swydd
barhaol a byddwch yn un o 5 o weithiwr cymdeithasol, yn gweithio ochr yn ochr â
5 cynghorydd personol, gweithiwr cymorth ac yn atebol i'r Rheolwr Tîm
Cynorthwyol a'r Rheolwr Tîm.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw ymgeisydd sydd am weithio gyda phobl
ifanc 16-25 oed sydd â Phrofiad Gofal. Rydym am i Wrecsam fod yn fan lle mae
pobl ifanc sydd â Phrofiad Gofal yn cael y cyfle gorau i symud ymlaen â
llwybrau cadarnhaol at annibyniaeth a chael y buddion bywyd mwyaf posibl, o gyfleoedd addysgol, iechyd a gofal
cymdeithasol.
Mae gan y tîm ddyletswydd i sicrhau fod pob person ifanc â Phrofiad
Gofal mewn llety sy’n diwallu eu hanghenion, yn adlewyrchu eu hawl i ddiogelwch
ac yn eu hannog i gyrraedd eu potensial ar bob cam o’u datblygiad, wrth
ddiogelu a hybu eu lles. Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r holl bobl ifanc sydd â
Phrofiad Gofal i gyflawni eu potensial addysgol llawn ac i hybu eu hiechyd
corfforol a meddyliol a’u lles emosiynol.
Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn rydym eisiau rhywun a all sicrhau bod
gwasanaethau o ansawdd uchel ac yn rhagori ar safonau cenedlaethol. Bydd angen
i chi weithio ar draws gwasanaethau, y cyngor a phartneriaid i gynnal arfer
rhagorol a pherthnasoedd gwaith.
Bydd angen i chi fod yn brofiadol o weithio gyda phobl ifanc sydd â
Phrofiad Gofal a dod â syniadau arloesol a fydd yn parhau i wella’r cymorth y
mae pobl ifanc yn ei gael gan y gwasanaeth.
Am ymholiadau pellach am y rôl, cysylltwch â Leah Feeley-Jones neu
Vicky Crewe ar 01978 295610
Mae angen cofrestriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a
Chyngor Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas
waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg
a'r Saesneg.
Os oes gennych ymholiadau pellach am y swydd cysylltwch â Leah Feeley
Jones neu Vicky Crewe – 01978 295610.
Mae angen gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad
Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae angen gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad â
Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y
swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas
heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos eu gallu i weithio yn
Gymraeg ac yn Saesneg.
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Victoria Crewe |
Ffôn: | 01978 295412 |
Cyfeiriad e-bost: | victoria.crewe@wrexham.gov.uk |