Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Rheolwr Cofrestredig Gofal Preswyl Plant

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 28/08/2022
Dyddiad Postio: 15/08/2022
Cyfeirnod: 06597

Disgrifiad

G11 Cyflog £38,553 – £41,591 y flwyddyn

Swydd Lawn Amser Barhaol 37 awr 

Oes gennych chi sgiliau rheoli ac arwain cryf? Sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm rhagorol? Dealltwriaeth a gwybodaeth dda o gynllunio ar gyfer cyflawni gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y Plentyn, a phrofiad o weithio gyda phlant diamddiffyn?  Os felly, hoffem glywed gennych. 

Mae gennym ni gartref bach newydd i blant yn agor yn Wrecsam, ac rydym yn chwilio am Reolwr profiadol sy'n angerddol am ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y Plentyn, i’w reoli. 

Bydd y rôl yn cynnwys sefydlu, cofrestru gydag AGC a bod yn Rheolwr Cofrestredig cartref arbenigol sy'n cefnogi Plant ag Anableddau. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli a datblygu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, gan hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i unigolion.  

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad amlwg o reoli newid, gwella gwasanaethau’n barhaus, a datblygu diwylliant cadarnhaol. Bydd yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a’r Canllawiau Statudol perthnasol, Deddf Plant 1989, a deddfwriaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod wedi cymhwyso a chofrestru fel y ‘Rheolwr Cofrestredig’ enwebedig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chynnal y cofrestriad gorfodol fel Rheolwr Cofrestredig Gwasanaethau Preswyl Plant.

 

 Bydd yn rhaid i chi feddu ar y canlynol:

  • ·                     Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (neu gyfatebol) neu Ddiploma Lefel 3/4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu gyfwerth) ac ymrwymiad i gyflawni Lefel 5 o fewn terfyn amser penodol yn dilyn penodiad. 
  • ·                     Y gallu i ddarparu gwasanaeth ymatebol, blaengar ac o ansawdd uchel wedi'i deilwra i blant diamddiffyn.
  • ·                     Bydd angen i chi ddangos sgiliau arwain a rheoli cryf, gyda phrofiad ac angerdd am fentora a hyfforddi staff, er mwyn sicrhau datblygiad tîm effeithiol gyda staff medrus a llawn cymhelliant.
  • ·                     Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac o dan bwysau.
  • ·                     Profiad o ddelio â sefyllfaoedd heriol gyda'r gallu i ddatblygu datrysiadau sydd er budd gorau unigolion. 

Mae'r swydd yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Byddwn hefyd yn datblygu ail leoliad preswyl newydd ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal felly bydd cyfleoedd cyffrous pellach i ymuno â'r Gwasanaeth Preswyl Plant yn y dyfodol.

 Am sgwrs anffurfiol gallwch gysylltu â Kim Thomas – Pennaeth Gwasanaeth ar (01978) 298535. 

Dyddiau cau - 14 Awst. Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 29 Awst. 

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran. 

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Kim Thomas
Ffôn: 01978 298535
Cyfeiriad e-bost: Kim.Thomas@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr