Uwch Swyddog Cynllunio - Rheoli Datblygu
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Economi a Cynllunio |
Dyddiad Cau: | 19/02/2023 |
Dyddiad Postio: | 02/02/2023 |
Cyfeirnod: | 06605 |
Disgrifiad
Wrecsam yw dinas fwyaf newydd Cymru – a hoffech chi ein
helpu ni i’w siapio?
Rydym yn falch iawn o'n Statws Dinas newydd. Gyda Strategaeth Siapio Lle newydd yn cael ei datblygu, David Fitzsimon, Prif Swyddog newydd yn cael ei benodi yn 2022 a llawer o brosiectau adfywio diddorol ar y gweill, mae cyfnod prysur a chyffrous o’n blaenau. Mae gennym ystod o gyfleoedd diddorol ar hyn o bryd ar gyfer gweithwyr proffesiynol cynllunio brwdfrydig a thalentog i wneud eu marc ar ystod o lefelau.
Uwch Swyddog Cynllunio – Rheoli Datblygu
G10 – £36,298 - £39,493 y flwyddyn
Ymdrin ag ystod lawn o ymholiadau cynllunio, ceisiadau cynllunio mwy cymhleth ac apeliadau perthnasol tra’n cefnogi a mentora aelodau iau’r Tîm.
Rydym yn falch o fod â Gwobr Aur am Iechyd Corfforaethol ac mae ein diwylliant yn seiliedig ar rymuso, cefnogaeth ac ymddiriedaeth. Rydym newydd symud i’n Swyddfa newydd ei hadnewyddu yng nghanol Wrecsam ac rydym yn gweithio mewn ffordd fodern, hyblyg a chreadigol. Mae’r buddion yn cynnwys aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, lwfans gwyliau hael a hyfforddiant strwythuredig parhaus.
I drefnu trafodaeth anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi
hyn, gallwch anfon e-bost at David Fitzsimon, Prif Swyddog Economi a
Chynllunio: david.fitzsimon@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd,
rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor
wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Matthew Phillips |
Ffôn: | 01978 298780 |
Cyfeiriad e-bost: | Matthew.Phillips@wrexham.gov.uk |